Wnes i addo i’n hun mai un pwnc na chyffyrddwn i fyth fyddai’r ddadl danbaid ar drawsrywioldeb. Mewn difri, mae hynny achos mae hi’n ddadl sydd wedi achosi llawer mwy o ddinistr nag y dylai, â lladmeryddion ar y ddwy ochr sydd, sori dweud, yn honco bost. Ond gyda’r gemau Olympaidd (dim diddordeb!) yn digwydd, a sôn am le athletwyr traws ynddynt, ddyweda’ i hyn.