Mae hi’n hawdd iawn taflu baw at chwaraewyr pêl-droed proffesiynol ar y lefel uchaf.

Ac nid eu bai nhw ydy’r ffaith fod y ffasiwn arian yn cael ei dalu am eu gwasanaethau.

Ond mae rhywbeth yn wirioneddol ych-a-fi am weld clwb Manchester City yn talu £100 miliwn am y chwaraewr Jack Grealish, ac yn ystyried gwario £150 miliwn arall ar Harry Kane.