Mae Alex Salmond yn lansio plaid newydd er mwyn ymgeisio yn etholiadau Senedd yr Alban.
Bydd cyn-Brif Weinidog yr Alban yn sefyll yn rhanbarth y Gogledd Ddwyrain, ac yn arwain Plaid Alba.
Yn ogystal, bydd tri ymgeisydd arall yn sefyll ar y rhestrau rhanbarthol ar ran y blaid newydd.
“Dros y chwe wythnos nesaf byddwn yn hyrwyddo syniadau newydd ynghylch dyfodol yr Alban, gan roi’r prif sylw i adfer yr economi ar ôl y pandemig, a gyda’r gobaith o ennill ein hannibyniaeth,” meddai Alex Salmond.
“Rydym yn disgwyl i o leiaf pedwar ymgeisydd sefyll dros y blaid ar y rhestrau rhanbarthol, ac rydym yn gobeithio ethol Aelod Seneddol o Blaid Alba dros bob rhan o’r Alban.”
Ychwanegodd Alex Salmond mai nod y blaid yw gweithio tuag at “wlad annibynnol lwyddiannus, sy’n deg yn gymdeithasol, ac yn gyfrifol yn amgylcheddol.”
“Rydym ni’n sefyll ar y rhestrau rhanbarthol yn unig,” esboniodd.
“Ni fyddwn ni’n herio’r SNP yn yr etholaethau.
“Yn wir, rydym yn dweud wrth bobol i bleidleisio dros yr SNP neu blaid sy’n cefnogi annibyniaeth yn yr etholaethau. Rydym yn rhoi’r gefnogaeth honno.
“Bydd ein hymgyrch yn hollol gadarnhaol,” pwysleisiodd.