Mae Adam Price wedi addo ymestyn y cynllun cinio am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd, petai Plaid Cymru yn dod i rym yn dilyn Etholiad y Senedd ym mis Mai.
Yn ystod Streic y Glowyr yn y 1980au derbyniodd Adam Price brydau ysgol am ddim, a dywedodd bod hynny wedi ffurfio ei farn y byddai rhaglen o’r fath yn rhoi “cyfle teg” i bob plentyn.
Wrth lansio ymgyrch etholiadol Plaid Cymru heddiw, fe wnaeth addewid i greu 60,000 o swyddi gwyrdd, a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen i’r gwasanaeth iechyd hefyd.
Cynnig prydau am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd ydi’r “unig ffordd o sicrhau ein bod yn helpu pob plentyn mewn tlodi”, meddai Adam Price wedi lansiad yr ymgyrch.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 195,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
Cymru ymhell tu ôl i Loegr a’r Alban
“Nid yw pobol o’r dosbarth canol neu deuluoedd cyfoethog yn talu i fynd i’r ysgol, mae’n rhad ac am ddim. Felly dylai’r prydau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’r addysg fod am ddim,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae Lloegr a’r Alban yn rhoi prydau am ddim i’r babanod, felly mae Cymru ymhell tu ôl i hynny.
Dywedodd y byddai’r rhaglen “drawsnewidiol” yn gwneud lles i gynhyrchwyr bwyd lleol, a byddai’n ymestyn y rhaglen i gynnwys disgyblion ysgolion uwchradd petai Plaid Cymru yn ennill ail etholiad.
Roedd tad Adam Price yn löwr yn ystod Streic y Glowyr, ac ychwanegodd fod hyn yn bwysig yn “bwysig iawn” iddo ar lefel “bersonol”.
“Wrth ddod allan o’r streic, roedd pethau’n anodd i ni fel teulu. Roeddwn i’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ystod y streic. Felly, rydw i wedi bod yn y sefyllfa.
“Mae’n ymrwymiad gwleidyddol personol i mi, ond mae’n gwneud synnwyr i ni fel cenedl.”
Byddai’r Ysgogiad Economaidd Gwyrdd yn cynnwys buddsoddi i sicrhau bod tai yn fwy effeithlon wrth arbed ynni, a gwella rhwydwaith ddigidol Cymru.
Yn ogystal, mae’n awyddus i fanteisio ar “botensial” egni morwrol, a chreu cwmni egni sydd wedi’i berchnogi gan y wladwriaeth.
Ychwanegodd fod y ffordd mae pobol yn ysu am ffordd allan o’r pandemig yn “rhy gyfarwydd” i’r rhai sydd eisiau dianc rhag “y pandemig oedd yn bodoli cynt yng Nghymru – pandemig o amddifadrwydd, anghydraddoldeb, a difaterwch.”
Wrth siarad gyda Golwg ychydig wythnosau’n ôl, dywedod Adam Price “ein bod ni i gyd yn colli” os nad ydym yn “ffocysu ar ddatrys tlodi plant”.