Mae o leiaf pum person wedi eu lladd gan dornado yn nhalaith Alabama yn yr Unol Daleithiau.

Daw hynny wedi stormydd difrifol daro’r ardal cyn lledu i’r dalaith gyfagos, Georgia.

Dywedodd yr awdurdodau fod un tornado wedi teithio oddeutu 100 milltir ar draws y dalaith, gan adael llwybr o ddifrod ar ei hôl.

Mae’n debyg mai ardaloedd gwledig gafodd eu heffeithio’n bennaf, sydd wedi golygu arbed sawl bywyd yn ôl y sheriff lleol.

Y tywydd garw yn parhau

“Mae pum person wedi colli eu bywydau ac i’r teuluoedd hynny, fydd bywyd byth yr un fath,” meddai’r Sheriff Mathew Wade.

“Mae ein calonnau, ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r teuluoedd ac rydym yn gwneud ein gorau i roi gwybod iddynt ein bod yn eu caru.”

Yn y gorllewin, roedd rhannau helaeth o sir Shelby ger Birmingham, sef dinas fwyaf y dalaith, hefyd wedi ei heffeithio, ble mae tai a busnesau wedi eu chwalu.

Er bod y gwaith adfer wedi cychwyn, mae rhybuddion pellach y bydd tornados, glaw trwm a llifogydd yn taro rhannau helaeth o Alabama a thaleithiau cyfagos dros y diwrnodau nesaf.