Mae trigolion o Wynedd, Ynys Môn, a Chonwy yn ymuno mewn diwrnod o weithredu cenedlaethol er mwyn pwyso ar i’r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol gael ei drafod yn San Steffan.

Heddiw (Mawrth 26), bydd yr ymgyrchwyr yn dal baneri mewn sawl lleoliad ar draws y gogledd i godi ymwybyddiaeth.

Mae’r ymgyrch yn lleol yn cael ei threfnu gan Grŵp Hinsawdd Menai, a phrif bwrpas gweithredu heddiw yw galw ar Aelodau Seneddol i gefnogi’r bil.

Roedd y bil i fod i gael ei drafod yn San Steffan heddiw, ond cafodd y drafofaeth ei chanslo oherwydd covid ac mae’r ymgyrchwyr yn ofni na fydd y drafodaeth ar y ddeddfwriaeth yn cael ei hail-drefnu heb bwysau gan y cyhoedd.

Petai’r mesur yn cael ei basio, byddai’n golygu creu cynllun ac amserlen er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, ac i ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt sy’n cael eu colli.

Yr ymgyrchwyr ym Miwmares

Mae’r mesur hefyd yn cynnig sefydlu Cynulliad Dinasyddion, er mwyn cynorthwyo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i benderfynu pa bolisïau i’w cynnwys i leihau allyriadau a gwarchod natur.

“Angen dangos arweinyddiaeth fyd-eang”

Mae’r trefnwyr yn galw ar Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, i gefnogi’r bil, er ei bod hi wedi dweud nad ydi hi o’i blaid.

“Gellir dadlau mai’r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol (Mesur CEE) yw’r Mesur pwysicaf i’w gyflwyno i’r Senedd yn ein hamser,” meddai Abi Beath, sy’n cymryd rhan yn y gweithredu heddiw.

“Fe’i cefnogir gan nifer cynyddol o ASau a sefydliadau: Os caiff ei basio, bydd yn gosod fframwaith cyfreithiol ar gyfer delio â’r argyfwng o gyflymu colli bioamrywiaeth, digwyddiadau tywydd eithafol a chwalfa yn yr hinsawdd.

“Gyda’r Deyrnas Unedig yn cynnal yr Uwchgynhadledd Hinsawdd Ryngwladol eleni, mae angen i ni ddangos arweinyddiaeth fyd-eang. Mae’r mesur hwn yn gwneud hynny.”

“Does neb yn imiwn i’w fygythiad”

“Newid hinsawdd yw’r mater mwyaf difrifol sy’n wynebu’r blaned,” ychwanega Martin Skov, ymgyrchydd sy’n byw ym Miwmares.

“Does neb yn imiwn i’w fygythiad – ac yn anffodus cenedlaethau’r dyfodol fydd yn wynebu’r gwaethaf o’i ganlyniadau.

“Mae’r Mesur CEE yn gyfle euraidd i helpu i drwsio ein hinsawdd ac adfer ein byd naturiol. Mae angen i Lywodraeth San Steffan droi’r Mesur yn gyfraith cyn gynted â phosibl.

“Mae angen mwy na siarad. Mae angen gweithredu.”