Bydd YesCymru yn dosbarthu papurau newydd “i ryw filiwn o bobol” yng Nghymru dros y penwythnos.

Mae Cadeirydd y grŵp yn dweud ei fod yn “gwybod na fydd pawb eisiau cefnogi annibyniaeth,” ond bod dosbarthu’r papurau yn gyfle i ddadlau’r achos a chyfleu ffeithiau o blaid annibyniaeth.

Yn ogystal, mae’n gyfle i gyrraedd pobol sydd ddim ar y cyfryngau cymdeithasol a “chyfleu neges o hyder yn ein hunain fel cenedl”, yn ôl Siôn Jobbins.

Bydd y papurau dwyieithog yn cael eu dosbarthu gan wirfoddolwyr o grwpiau YesCymru ar draws y wlad, gan gyrraedd un ym mhob tri pherson yng Nghymru.

Ers dydd Llun (Mawrth 22) mae gan bobol yng Nghymru’r hawl i ddosbarthu pamffledi, a bydd y grwpiau lleol yn cadw at reolau Covid-19.

Cyfle i rannu’r ddadl a chyfleu ffeithiau

“Rydym ni wedi argraffu tua 400,000 o’r papurau newydd, ac mae grwpiau YesCymru ar draws Cymru yn dosbarthu nhw o ddrws i ddrws,” esbonia Cadeirydd YesCymru wrth golwg360.

“Bydd hynny yn golygu bod ryw filiwn o bobol yn gweld y papurau, sef un trydydd o bobol Cymru.

“Mae hynny’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni – dangos neges o hyder yn ein hunain fel cenedl a chyrraedd y bobol sydd ddim yn dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol,” meddai Siôn Jobbins.

“Rydym ni’n gwybod na fydd pawb eisiau cefnogi annibyniaeth, ond rydym ni’n rhoi’r ddadl allan yna ac yn gwneud hynny’n hyderus a gobeithio rhoi’r ffeithiau i bobol o blaid annibyniaeth.”

Trio cyrraedd y rhai sydd ddim ar y cyfryngau cymdeithasol

Dangosodd un pol piniwn yn ddiweddar y byddai 39% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth petai refferendwm yn cael ei chynnal, ac mae nifer aelodau’r mudiad bellach wedi cynyddu i 18,000.

“Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi gweithio’n wych i ni, ac wedi mynd â ni o ryw 2,000 aelod i 18,000,” eglura’r Cadeirydd.

“Ond, mae yna bobol sydd ddim ar social media, mae yna bobol sy’n aros tu mewn i’w swigen eu hunain, felly rydym ni’n trio’u cyrraedd nhw.

“A diolch yn fawr i’r holl aelodau newydd rydym ni wedi’u cael, rydym ni nawr efo’r arian i dalu am y papur yma, sy’n amlwg yn costio i’w argraffu,” ychwanega.

“Mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n gallu ei wneud gydag aelodaeth dorfol. Mae aelodaeth dorfol mor bwysig, yn gyntaf mae gennym ni’r arian i argraffu 400,000 o bapurau newydd, ac yn ail mae gennym gefnogwyr ar lawr gwlad sy’n barod i dorchi llewys am awr neu ddwy er mwyn dosbarthu’r papurau.

“Rydym ni fel mudiad wedi bod yn trafod hyn ers misoedd, a’r grwpiau sydd wedi gofyn am y copïau, felly d’yw pob ardal ddim am dderbyn y papurau hyn gan nad yw pob grŵp wedi gallu gwneud.

“Mae’r dosbarthu am gryfhau’r grwpiau hynny, a gobeithio, ysgogi mwy o bobol i deimlo’u bod nhw eisiau bod yn weithgar gyda YesCymru.”

Erbyn hyn, mae mwyafrif o Lafurwyr yn cefnogi annibyniaeth, a heddiw mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y blaid Lafur i ddweud yn glir beth yw ei barn ar y mater.