Er bod cyfraddau achosion Covid-19 yn disgyn ar draws Wynedd, mae pryder ynghylch y cynnydd diweddar mewn rhai cymunedau yn nalgylch Caernarfon.
Mae Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd yn annog trigolion tref Caernarfon, a phentrefi cyfagos Rhosgadfan, y Felinheli, a Deiniolen i gymryd gofal arbennig, a sicrhau eu bod nhw’n dilyn y rheolau.
“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cyfraddau Covid-19 yn disgyn yn gyffredinol yma yng Ngwynedd, ac mae’r diolch am hynny i drigolion y sir am gadw at y rheolau,” meddai Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd, a Chadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid Gwynedd.
“Fe wyddwn ni fod hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ond mae hi’r un mor bwysig rŵan ein bod i gyd yn cadw at y mesurau allweddol.
“Ar hyn o bryd, mae cyfraddau Covid-19 Gwynedd yn gostwng ac yn is na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Ond, o edrych yn fwy lleol, mae’r ystadegau wedi dangos cynnydd yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos yn cynnwys Rhosgadfan, Y Felinheli a Deiniolen,” rhybuddia Dafydd Williams.
“Mae hyn yn fater o bryder ac rydym yn erfyn ar drigolion yn yr ardaloedd yma i sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau er mwyn atal lledaeniad pellach yr haint.
“Fe wyddom am gymunedau eraill lle mae niferoedd gweddol fychan o’r haint wedi cynyddu dros nos gynted ac mae’r patrwm o ledaeniad wedi ei sefydlu. Rydym am osgoi sefyllfa o’r fath yng Nghaernarfon a chymunedau cyfagos yn cynnwys Rhosgadfan, Y Felinheli a Deiniolen ac yn annog pobl sy’n byw yn y cymunedau yma i gadw at y rheolau sylfaenol i gadw eu hanwyliaid a’u cymuned leol yn ddiogel.
“Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy’n datblygu unrhyw symptom Covid-19 i hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith.
“Trwy helpu i atal lledaeniad yr haint, bydd pobl sy’n byw yn y cymunedau yma yn achub bywydau.”
Er mwyn cadw cymunedau yn ddiogel, mae Cyngor Gwynedd yn annog trigolion i:
- Weithio o gartref os yn bosib
- Gwisgo gorchudd wyneb lle bo gofyn
- Agor ffenestri i adael awyr iach i mewn
- Golchi eu dwylo’n rheolaidd
- Aros 2 fetr i ffwrdd oddi wrth unrhyw un sydd ddim o’r un cartref