Mae teulu wedi talu teyrnged i ddyn 65 oed gafodd ei ddarganfod yn farw yn Minffordd, ger Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd ddoe.

Mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth Dafydd Thomas ac wedi arestio dyn.

Ac mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, drwy law Heddlu’r Gogledd:

“Rydym fel teulu yn ceisio dod i delerau gyda’n colled. Roedd yn ŵr, tad a thaid bendigedig.

“Mae teulu estynedig Dafydd hefyd wedi cael eu hysgwyd gan ei farwolaeth mewn amgylchiadau mor drasig. Bydd yn cael ei gofio am ei gariad at ei deulu, ei waith caled fel gŵr busnes lleol a’i waith yn codi arian tuag at achosion da.

“Gofynnwn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ymchwilio i lofruddiaeth

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: “Yn anffodus gallwn gadarnhau ein bod yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn Minffordd, Penrhyndeudraeth.

“Rydym yn cydymdeimlo gyda’r teulu, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

“Mae un dyn yn y ddalfa, ac nid oes unrhyw bryderon am ddiogelwch y cyhoedd.”