Mae disgwyl i Chris Gunter greu hanes heno (Mawrth 27) yn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico.

Bydd yr amddiffynnwr yn ennill ei ganfed cap dros ei wlad – y Cymro cyntaf i gyrraedd y garreg filltir.

Ac yn hufen ar y gacen, y gŵr o Gasnewydd fydd capten Cymru wrth iddo ennill ei ganfed cap.

Eisoes mae Chris Gunter gyda’r nifer fwaf o gapiau dros Gymru.

Pan gurodd record y golwr Neville Southall o 93 cap, dywedodd Chris Gunter mai “Cymru sy’n bwysig, nid y capiau.”

Er hynny, mae’r cefnogwr brwd Tommie Collins o’r farn bod cyrraedd y cant yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’i ffyddlondeb tuag at ei dîm a’i wlad.

“Arwr”

Roedd Tommie Collins yn y dorf pan enillodd Chris Gunter ei gap cyntaf i’r tîm cenedlaethol mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras, Wrecsam, yn erbyn Seland Newydd ym mis Mai 2007.

Ar y pryd, nid oedd Tommie wedi disgwyl i’r chwaraewr 17 oed fod mor driw i’w wlad na’i dîm, na chwarae cant o gemau rhyngwladol.

“I gael cant o gapiau, mae hynny’n profi bod o wedi bod yn ffyddlon,” meddai.

“Hyd yn oed yn yr amseroedd gwael, dydi o erioed wedi ein gadael ni i lawr.

“I mi fel cefnogwr, ac i  bawb, mae o’n arwr.”

“Rôl allweddol hefo’i brofiad”

Enillodd Chris Gunter gap rhif 50 mewn gem yng Ngwlad Belg ym mis Hydref 2014, gan olygu mai ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd y garreg filltir.

Er bod cyfleodd i chwarae i’r tîm cyntaf wedi bod yn brin yn ddiweddar, wrth i chwaraewyr ifanc fel Connor Roberts a Neco Williams gael mwy o gyfleoedd, mae Tommie Collins yn credu bod rôl chwaraewyr profiadol yn fwy pwysig nag erioed.

“Dw i’n siŵr fod Ashley Williams yn ddylanwad mawr,” meddai.

“Ac yn amlwg rŵan mae o wedi mynd, felly dw i’n siŵr bod gan [Chris Gunter] rôl allweddol hefo’i brofiad i’r chwaraewyr ifanc sy’n dod drwodd.”

Wrth holi pa mor arwyddocaol yw ei lwyddiant, dywedodd Tommie Collins:

“Rydan ni gyd yn cofio faint o gapiau mae Garry Speed wedi cael, faint mae Neville Southall wedi cael – fel cefnogwyr rydan ni yn gwybod, felly dw i’n falch bod o wedi gwneud o.

“Yn amlwg, dydi o ddim wedi bod yn chwarae gymaint ac dw i’n siŵr bod o wedi cwestiynu os ydi o yn mynd i [gael cant o gapiau].

“Felly fydd o’n falch, ac rydan ni fel cefnogwyr yn falch.

“Mae o erioed wedi bod ar ochr y cefnogwyr, dod ata ni ar ôl y gêm, cymeradwyo ni – mae o’n genuine.

“Mae’r boi yn legend.

“Y bechod mwyaf, yw peidio gallu bod yno i weld y cyfan.”

Gair gan y dyn ei hun

Wrth drafod y garreg filltir cyn yr ornest heno, roedd y chwaraewr ei hun yn nodweddiadol o ddiymhongar.

“Dim ond dyn normal ydw i, wnaeth droi fyny ar ôl cael ei ddewis yn eithaf aml, a gwneud ei orau glas,” meddai Chris Gunter.

“Rhywun oedd ddim yn gallu bod yn bendant o chwarae yn dda neu yn ddrwg, ond roeddech chi wastad yn gwybod beth yr oeddech chi’n ei gael o ran ymdrech.

“Rydw i’n lwcus iawn mai’r oll mae’r cefnogwyr a chyhoedd Cymru yn ofyn amdano gan chwaraewr yw ymdrech.

“Mae gallu yn dod yn ail i ymdrech, sy’n siwtio fi’n berffaith.”

“Cymru sy’n bwysig, nid y capiau” meddai Chris Gunter

Fe fydd y chwaraewr poblogaidd yn torri record Neville Southall heno