Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddweud nad yw “buddugoliaeth i Lafur yn anorfod” yn etholiadau Senedd Cymru, a bod “buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn fwy posib nag erioed,” yn ei araith i Gynhadledd Wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl Simon Hart, bydd y Gronfa Codi’r Gwastad (levelling up) – sydd yn £4.8 biliwn – yn caniatáu i gynghorau sir Cymru wneud ceisiadau ar gyfer ariannu prosiectau o Gaerffili i Gonwy am y tro cyntaf ers degawdau.
Mae disgwyl i Simon Hart gyfeirio at y gwaith mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i wneud ers dechrau’r pandemig, a’r swyddi sydd wedi’u creu yng Nghymru yn sgil y buddsoddiadau.
“Cynnig cymorth anferth i Lywodraeth Cymru”
“Mae nifer o fesurau sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig i gyd, gan gynnwys ffyrlo, benthyciadau busnesau, a chefnogaeth i bobol hunan-gyflogedig, wedi gwarchod cannoedd o filoedd o swyddi yng Nghymru,” meddai Simon Hart.
“Rydym ni wedi cynnig cymorth anferth i Lywodraeth Cymru, mwy na £7 biliwn.
“Dros y mis diwethaf yn unig, mae buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cefnogi a chyflymu’r broses o greu miloedd o swyddi yng Nghymru.
“Rydym wedi ymrwymo i wneud hwb hydrogen yng Nghaergybi, Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, a buddsoddi £20 miliwn i ddatgarboneiddio’r clwstwr diwydiannol yn y de.
“Dros y blynyddoedd mae llywodraethau wedi sôn am ledaenu eu buddsoddiadau ar draws y Deyrnas Unedig, ond ni allaf feddwl am yr un llywodraeth sydd mor uchelgeisiol â hon.
“Bydd y Gronfa Codi’r Gwastad, sydd werth £4.8 biliwn, yn caniatáu i awdurdodau lleol Cymru wneud ceisiadau am arian i dalu am brosiectau o Gaerffili i Gonwy am y tro cyntaf mewn degawdau.”
Serch hynny, mae gweinidogion o Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi mynegi pryderon ynghylch “penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiystyru’r trefniadau datganoli y cytunwyd arnynt yn ddemocrataidd,” wrth i’r Gronfa Codi’r Gwastad gael ei rhoi ar waith.
Ychwanegodd Simon Hart: “Bydd y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol, sydd werth £150 miliwn, yn caniatáu i drefi a phentrefi Cymru ddiogelu lleoliadau megis tafarndai a theatrau drwy eu rhedeg fel mentrau cymunedol.”
“Cymru mewn stad economaidd fregus”
Mae disgwyl i Simon Hart drafod yr effaith mae’r pandemig wedi’i gael ar Gymru, a dweud bod y rhagolygon economaidd yn dangos mai trefi Cymru fydd wedi’i “heffeithio waethaf”.
“Mae 22 mlynedd gyda’r Blaid Lafur mewn grym wedi gadael Cymru mewn stad economaidd fregus, hyd yn oed cyn y pandemig,” meddai Ysgrifennydd Cymru.
“Rydym angen Llywodraeth ym Mae Caerdydd fydd yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer adeiladu gwell Cymru i bawb.
“Ers tro rydw i’n credu bod angen gweledigaeth fawr ar gyfer economi Cymru.
“Ni fydd y trawsnewid yn digwydd dros nos – ond mae gennym ni gynllun pendant er mwyn symud i’r cyfeiriad cywir.
“Tra bod y Blaid Lafur yn brwydro i fod yn fwy cenedlaethol na’r cenedlaetholwyr, mae ein gweledigaeth ni’n un gadarnhaol a gobeithiol, ac yn un sy’n rhoi Cymru yng nghanol Prydain Fyd-eang mewn byd sy’n llawn cyfleoedd newydd.
“Nid yw buddugoliaeth i Lafur yn anorfod, ac ni fu buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr erioed yn fwy posib.”