Mi fydd tafarndai yn ailagor yn hwyrach yng Nghymru nag yn Lloegr am mai dyna mae “modelu” cyfrifiadurol yn dweud sydd orau.

Dyna mae’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atheron, wedi ei ddweud mewn cynhadledd ar y cyd â Phrif Weinidog Cymru brynhawn heddiw.

Yn y gynhadledd cadarnhawyd y byddai tafarndai a bwytai yn medru aildanio gwasanaethau tu allan o Ebrill 26 ymlaen, sydd bythefnos ar ôl Lloegr.

Mae yna ofidion y bydd Cymry sychedig yn heidio dros Glawdd Offa am beint, ac mae Prif Weinidog Crymu eisoes wedi annog y cyhoedd i beidio â gwneud hynny.

Yn siarad brynhawn heddiw wnaeth Dr Frank Atherton egluro’r rhesymeg tu ôl yr amseru.

“Ydy, mae’n werth cyflwyno rheolau mewn ffordd debyg ledled y cenhedloedd,” meddai. “Ac rydym yn ceisio dilyn yr egwyddor yna.

“Ond yn yr achos yma mae gennym fodelu. Dros y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi dod i ymddiried yn y modelu.

“Pe bawn yn codi cyfyngiadau yn rhy gyflym, neu os dyw cymunedau ddim yn ymddwyn mewn ffordd synhwyrol, mi all y feirws brofi adfywiad. Dyna mae’r modelu yn awgrymu.

“Nid yw’r feirws wedi mynd i ffwrdd. Mi fydd yn dod yn ôl, ac mi fydd niwed yn dod ag ef. Felly’r cyngor … yw bwrw ati mewn ffordd ofalus.”

Ategodd bod yn rhaid “darbwyllo’r boblogaeth rhag teithio dros ffiniau” oherwydd “bydd hynny’n achosi problemau”.

Rheolau ar fai am helynt y Bae?

Yn ystod y gynhadledd, wnaeth newyddiadurwyr godi sawl cwestiwn am amseriad y llacio rheolau ar gyfer tafarndai a bwytai.

Wfftiodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, y syniad y gellid fod wedi osgoi’r helynt ym Mae Caerdydd ar ddechrau’r wythnos, pe bai tafarndai ar agor.

A rhodd yntau ei farn am y gofidion ynghylch Cymry yn teithio i Loegr am ddiodydd.

“Wnaethom roi ystyriaeth ofalus iawn i’r posibiliad o ailagor y sector groeso awyr agored bythefnos yn gynt, er mwyn cyd-fynd â’r newidiadau yn Lloegr,” meddai.

“Ond roedd y cyngor yn glir – doedd hynny ddim yn cael ei argymell.

“Dw i’n deall yn iawn pam bod pobol am i’r diwydiant groeso ailagor yng Nghymru cyn gynted ag sy’n bosibl, achos mae pobol yn gwybod yn awr y bydd yn ailagor ar Ebrill 26.

“Alla i ddim dychmygu y bydd unrhyw un sydd yn poeni am eu diogelwch, ac am ddiogelwch eu ffrindiau a theuluoedd, yn aberthu’u diogelwch.”