Mae’n ymddangos nad yw ffigyrau pennaf y Blaid Lafur ar yr un donfedd yn union ar fater pasborts coronafeirws.

Gyda’r rheolau yn llacio yn y Deyrnas Unedig, mae trafodaeth wedi’i thanio ynghylch pasborts covid – hynny yw, ffordd o brofi eich bod wedi cael eich brechu.

Ac mae yna ddadl y byddai’r fath sustem yn hwyluso teithio rhyngwladol, ac y byddai o ddefnydd wrth ailagor yr economi (e.e mi allai tafarndai wrthod gweini pobol nad yw wedi’u brechu).

Megis dechrau mae’r drafodaeth yma, ac mae’n ymddangos bod Keir Starmer, arweinydd Llafur, a Mark Drakeford, arweinydd y blaid yng Nghymru, ar donfeddi ychydig yn wahanol ar y mater.

Mewn darn yn The Daily Telegraph mae Keir Starmer wedi dweud ei fod yn credu “wrth reddf” y bydd pobol Prydain yn gwrthwynebu’r fath sustem.

“Wrth i frechlynnau gael eu cyflwyno, ac wrth i niferoedd trosglwyddiadau i’r ysbyty a marwolaethau ostwng, dw i’n credu, wrth reddf, y bydd yna awydd Prydeinig i beidio dilyn y llwybr yma,” meddai.

Ond yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, yn rhinwedd ei swydd yn Brif Weinidog ar Gymru, mae Mark Drakeford, wedi cyfleu safiad ychydig yn fwy positif.

“Byddai rhaglen ardystio brechlynnau llwyddiannus yn rhoddi gwobrau positif i ni,” meddai yntau.

Sylwadau llawn y Prif Weinidog

Yn siarad brynhawn heddiw, dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi trafod y mater gyda Michael Gove, gweinidog Llywodraeth San Steffan, a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd bod gan bob un o’r pedair llywodraeth “bwerau annibynnol” yn y maes, ond rhannodd ei awydd i weld y llywodraethau yn cydweithio ar y mater.

“Rydym yn parhau i weithio â’n gilydd â mater ardystio brechlynnau (vaccine certification),” meddai. “Byddai rhaglen ardystio brechlynnau llwyddiannus yn rhoddi gwobrau positif i ni.

“Ond mae yna lawer o faterion ymarferol a moesegol y bydd yn rhaid mynd i’r afael â nhw os ydyn am ennill y cyfleoedd positif rheiny. Maen nhw’n gymhleth, ond rydym yn gweithio ar hyn â’n gilydd.”

Yn siarad â The Daily Telegraph wnaeth Keir Starmer ddweud bod mater y pasborts yn “hynod anodd” ac na fyddai’n “esgus bod yna ateb du a gwyn, ie-na i hyn”.

Beth am Boris Johnson?

Mae’n ymddangos bod Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn grediniol bod sustem pasborts yn anochel.

“Heb os mi fydd yna fyd lle bydd teithio rhyngwladol yn ddibynnol ar basborts brechlynnau,” meddai wrth ohebwyr.

“Allwch chi weld yn barod bod gwledydd eraill, y diwydiant awyrennau, â diddordeb yn rheiny, ac mae yna resymeg i hynny,” meddai wedyn.

Tu allan i’r Deyrnas Unedig, mae rhai gwledydd eisoes wedi dechrau’r gwaith o roi sustemau yn eu lle a fydd yn gorfodi teithwyr tramor i brofi eu statws covid.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gobeithio cyflwyno tystysgrif werdd a fydd yn dangos a yw unigolyn wedi derbyn brechlyn, a yw unigolyn wedi derbyn prawf negyddol, neu a yw wedi dal covid a gwella.