Yn dilyn pleidlais swyddogol, mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynurhoi’r gorau i gefnogi Ardal Gwella Busnes Aberystwyth.
Mae’r Ardal Gwella Busnes yn cael ei rhedeg gan fudiad Aberystwyth Ar y Blaen, mudiad a gafodd ei ffurfio ym mis Ebrill 2016.
Eu bwriad yw gwneud Aberystwyth yn well lle i fyw, gweithio, ac ymweld, yn ôl y mudiad, ac er mwyn ariannu prosiectau’r mudiad, mae’n rhaid i fusnesau dalu ardoll ychwanegol.
Gall yr Ardal Gwella Busnes gael ei sefydlu drwy bleidlais gyfreithiol, a gall fod yn weithredol am bum mlynedd wedi’r bleidlais.
Wedi hynny, rhaid cynnal pleidlais i’w adnewyddu.
Partneriaeth sy’n cael ei harwain a’i hariannu gan fusnesau yw’r Ardal Gwella Busnes, lle mae busnesau o fewn ardal benodol yn buddsoddi arian er mwyn gwneud gwelliannau ar gyfer masnachu.
Dim ond busnesau sydd gan werth ardrethol o £6,00 neu fwy sy’n gorfod cyfrannu, ond gall busnesau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy wneud cyfraniadau gwirfoddol.
Nid oedd busnesau sydd gan werth ardrethol llai na £6,000 yn cael pleidleisio.
Gan fod pum mlynedd wedi pasio ers sefydlu’r Ardal Gwella Busnes, roedd rhaid cynnal pleidlais i adnewyddu’r cynllun yn ystod mis Mawrth.
Ni chafodd y cynnig er mwyn parhau i gynnal Ardal Gwella Busnes yn Aberystwyth ei basio.