Erbyn dydd Sul, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fod wedi cynnig brechlynnau coronafeirws i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae’r rhestr flaenoriaethau, sydd yr un peth ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, yn cynnwys preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, unigolion sy’n agored iawn i niwed yn glinigol, pobl 16-64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, a phobl 50 oed a hŷn.

Yng ngynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg ddydd Iau, dywedodd Mr Drakeford bod 57% o oedolion yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19, tra bod bron i un o bob pump wedi derbyn eu hail bigiad.

“Mae’r nifer sy’n manteisio arno yn ardderchog – mewn dros hanner y grwpiau rydyn ni’n eu cyfrif mae’n fwy na 90%,” meddai Mr Drakeford.

“Mae hon yn ymdrech wirioneddol ryfeddol ac mae’n ganlyniad i waith caled miloedd o bobl sy’n gweithio’n ddiflino ar reng flaen y GIG ledled Cymru i wneud i hyn ddigwydd. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.

“Ac oherwydd yr ymdrechion hynny, gallaf ddweud heddiw y byddwn yn cyrraedd ein carreg filltir nesaf o ran y brechlyn yn gynnar.

“Erbyn dydd Sul byddwn wedi cynnig brechlyn i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf – dyna bawb dros 50 oed, pob oedolyn â chyflwr iechyd sylfaenol a llawer iawn o ofalwyr di-dâl.

“Erbyn dydd Sul, bydd o leiaf 75% o’r rhai ym mhob grŵp blaenoriaeth wedi cael brechiad cyntaf.”

Ffigurau diweddaraf

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) ddydd Iau (1 Ebrill) fod cyfanswm o 1,443,885 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 wedi’u rhoi yng Nghymru, cynnydd o 16,702 o’r ddiwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 449,538 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 11,601.Cofnodwyd 188 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 209,532.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddwy farwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig i 5,509.

Darllen mwy

Gallwch ddarllen rhagor am y pandemig a’r hyn a ddeilliodd o gynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru, isod.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r camau nesaf i lacio’r cyfyngiadau

Bydd bwytai, caffis, a thafarndai yn cael ailagor tu allan o Ebrill 26, a champfeydd a chanolfannau hamdden yn ailagor ym mis Mai

Tafarndai: “Modelu” cyfrifiadurol yn argymell ailiagor yn hwyrach nag yn Lloegr

Y Prif Swyddog Meddygol yn egluro’r rhesymeg tu ôl amseriad y cam

Galw ar y cyhoedd i “feddwl yn ofalus iawn” cyn croesi Clawdd Offa i yfed

Mark Drakeford yn rhannu ei bryderon am ‘amrywiolyn Bryste’

Mark Drakeford yn gobeithio na fydd Boris Johnson yn caniatáu teithio rhyngwladol o Fai 17

“Os fuodd yna flwyddyn erioed i fwynhau’r hyn sydd gennym ni gartref, eleni yw’r flwyddyn honno”

Pasborts covid: awgrym nad yw arweinwyr Llafur yn cydweld

Keir Starmer yn amheus, Mark Drakeford ychydig yn fwy o blaid, Boris Johnson o’r farn eu bod yn anochel