Mae yna “angen dybryd” ar gyfer Deddf Awtistiaeth i Gymru, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

Ddechrau 2019 pleidleisiodd y Senedd yn erbyn Bil Awtistiaeth, gydag Aelodau Ceidwadol a Phlaid Cymru yn pleidleisio o’i blaid, ac AoSau Llafur yn pleidleisio yn ei erbyn.

Cyflwynwyd gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar y pryd, Paul Davies, ac roedd yntau’n dadlau y byddai’n hwyluso’r broses o gael diagnosis awtistiaeth.

Wnaeth y Gweinidog Iechyd Llafur, Vaughan Gething, gydnabod bod y sefyllfa yng Nghymru ddim yn ddigon da, ond roedd yntau’n dadlau bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wella pethau.

A hithau’n Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd mae Leanne Wood wedi achub ar y cyfle i atseinio’i theimladau am y Ddeddf na fu.

“Bodlon gwrando”

“Pan bleidleisiodd Llafur yn erbyn y Bil Awtistiaeth, rwy’n cofio’n glir y dystiolaeth ofidus a gawsom gan unigolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd,” meddai.

“Roeddent yn siarad yn deimladwy am yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu wrth gael cymorth ar ôl cael diagnosis ac mewn llawer o achosion yr ymdrech i gael diagnosis yn y lle cyntaf.

“Dangosodd eu straeon fod angen dybryd am ddeddfwriaeth o’r fath. Mae’r straeon hynny’n dal i gael eu hadrodd – y gwahaniaeth yw y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn fodlon gwrando.

“Mae tua 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru sydd angen ac sy’n haeddu llawer mwy o gysondeb ledled y wlad o ran darparu cymorth a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno’r Ddeddf Awtistiaeth i helpu’r miloedd hyn o bobl ac i gyflawni lle mae Llafur wedi methu.”

Y Rhondda

Leanne Wood yw ymgeisydd y Blaid yn y Rhondda unwaith eto eleni. Wele restr lawn o ymgeiswyr yr etholaeth honno islaw.

  • Llafur: Elizabeth Buffy Williams
  • Ceidwadwyr: Thomas Parkhilll
  • Democratiaid Rhyddfrydol: Jackie Charlton
  • Plaid Diddymu’r Senedd: Ian McClean
  • Reform UK: Steve Bayliss