Mae un o ymgeiswyr Plaid Cymru i etholiadau’r Senedd wedi ymddiswyddo yn sgil ffrae ynglŷn â sefydlu canolfan drin canser newydd.

Mae Ashley Drake wedi sefyll i lawr fel ymgeisydd yn etholaeth Gogledd Caerdydd gan gyhuddo’r blaid o “frad” am benderfynu glynu wrth benderfyniad llywodraeth Cymru i roi sêl bendith i safle Canolfan Ganser Felindre.

Mae hyn yn gadael y Blaid gyda dim ond wythnos cyn dewis ymgeisydd newydd yn ei le.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y blaid yn cefnogi’r ganolfan ac y byddant “yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n mynnu atebion”.

Mae safle’r ganolfan arbenigol newydd ar y dolydd gogleddol yng Nghaerdydd wedi profi’n ddadleuol, gan arwain at brotestiadau ynghylch ei heffaith amgylcheddol, a gan godi gofid ymhlith arbenigwyr canser sy’n dadlau y dylai’r ganolfan gael ei lleoli ochr yn ochr â’r ysbyty presennol.

Ond penderfynodd llywodraeth Lafur Cymru roi sêl bendith i’r cynllun ym mis Mawrth, gyda disgwyl y bydd y ganolfan yn agor yn 2025.

Ymchwiliad

Mae Ashley Drake, a oedd yn sefyll yn etholaeth Gogledd Caerdydd lle mae’r safle wedi’i leoli, wedi galw’n gyson am ymchwiliad annibynnol.

Ond yn gynharach yr wythnos hon, penderfynodd Plaid Cymru’n swyddogol na fyddent yn gwrthdroi’r penderfyniad pe bai nhw mewn grym, gan annog Ashley Drake, ei reolwr ymgyrchu Phil Nifield a’i asiant Dan Allsobrook i ymddiswyddo o’r blaid.

Mae Mr Drake, sy’n ŵr busnes, wedi bod yn aelod o’r Blaid ers 37 mlynedd ac wedi bod yn gynghorydd ac ymgeisydd Seneddol San Steffan.

Mewn llythyr yn amlinellu ei benderfyniad dywedodd Mr Drake bod y blaid wedi “bradychu” ei hegwyddorion amgylcheddol, arbenigwyr canser a chleifion gyda’i hymateb “byrbwyll a byrdymor”.

Mewn sylw ar Facebook, dywedodd fod egwyddorion wedi cael eu bwrw o’r neilltu “yn enw hwylustod gwleidyddol – yr union beth sy’n rhoi enw drwg i wleidyddiaeth”.

‘Siomedig’

“Mae hi hefyd yn glir bod y cysylltiad rhwng grŵp cefnogi Felindre a’r Blaid Lafur yn gryf iawn a bod Llafur yn ddigywilydd wedi defnyddio’r mater hwn fel arf er eu budd politicaidd eu hunain, ac yn targedu Leanne yn arbennig.

“Cefais fy nysgu erioed i sefyll i fyny i fwlïaid. Biti na fyddai gan arweinyddiaeth Plaid Cymru’r asgwrn cefn i wneud yr un fath.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru: “Mae’n siomedig iawn bod Ashley Drake unwaith eto wedi dewis camliwio digwyddiadau trwy rannu dyfyniadau dethol o sgyrsiau preifat.

“Mae nifer o sgyrsiau wedi digwydd dros sawl diwrnod gydag Ashley Drake, ac mae’n siomedig ei fod wedi dewis peidio trafod mewn ffordd adeiladol.

“Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cefnogaeth i’r ganolfan ganser newydd i dde-ddwyrain Cymru a byddwn yn parhau i ofyn y cwestiynau sy’n mynnu atebion er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i bobl y rhanbarth.”

Dyma’r ymgeiswyr y disgwylirŷ iddynt sefyll yng Ngogledd Caerdydd: Llafur – Julie Morgan, Ceidwadwyr – Joel Williams, Democratiaid Rhyddfrydol – Rhys Taylor Gwyrddion – Debra Cooper Abolish the Welsh Assembly Party – Lawrence Gwynn.