Mae’t tri parc cenedlaethol yng Nghymru wedi erfyn ar ymwelwyr i drefnu eu hymweliadau ymlaen llaw dros gyfnod y Pasg – er mwyn osgoi tafgeydd.

Gan fod hawl gan bobl sy’n byw yng Nghymru i deithio rywle yn y wlad, mae’r parciau yn rhybuddio y gallai hynny greu problemau os ydi pawb yn heidio i’r un cyrchfannau.

Eisoes ers y bore cyntaf mae llefydd parcio ger mynydfeydd i’r mynyddoedd tebyg i’r Wyddfa yn Eryri a Phen-y-Fan, Bannau Brycheiniog wedi bod yn llenwi.

Mae’r parciau i gyd wedi apelio i bobl i anelu am lefydd llai amlwg i grwydro ar eu hyd er mwyn osgoi torfeydd.

Gor-barcio

Mae gor-barcio wedi creu problemau mawr yn ddiweddar yn enwedig pobl yn gadael eu ceir mewn llefydd cyfyng ac yn achosi rhwystrau i deithwyr eraill gan gynnwys cerbydau brys.

Mae heddluoedd wedi bod yn rhoi dirwyon i berchnogion ceir yn y gorffennol yn ogystal â llusgo ceir o lefydd sy’n achosi rhwystr i eraill.

Mae ofnau hefyd y bydd gormod o bobl yn heidio i draethau tebyg i Ynys Y Barri a hefyd Ogwr gan dorri rheolau Covid-19 ynglŷn â thorfeydd yn ymgynnull a rheolau ymbellhau.

Mae Parc Cenedlaethol arfordir Sir Benfro wedi rhybuddio pobl i beidio parcio eu faniau dros nos ac yn hytrach i fynd i aros mewn campfeydd addas.