Bydd campfeydd, canolfannau hamdden, a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor yng Nghymru o Fai 10 ymlaen, meddai Llywodraeth Cymru.

O Fai 3, bydd cyfyngiadau yn llacio wrth i 30 o bobol gael cyfarfod ar gyfer gwneud gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu, ac mewn derbyniadau priodas.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau hyn yn rhan o’u cynllun i lacio’r rheolau “gam wrth gam”, ac yn ystyried amrywiolyn Caint, sydd yn lledaenu’n haws.

Mae’r holl newidiadau yn ddibynnol ar sefyllfa iechyd cyhoeddus Cymru, ond ar hyn o bryd mae achosion Covid-19 “yn gostwng yn gyffredinol”, a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn lleihau, yn ôl y Llywodraeth.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd bwytai, caffis, a thafarndai yn cael ailagor tu allan o Ebrill 26 ymlaen.

Bydd y cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch, ynghyd ag ailagor atyniadau awyr agored fel ffeiriau, yn cael eu cadarnhau yn ystod yr adolygiad nesaf ar Ebrill 22.

Wrth siarad cyn cynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw (Ebrill 1), dywedodd Mark Drakeford fod gan weinidogion le i ystyried llacio’r cyfyngiadau gan fod nifer yr achosion yn sefydlog, a bod y rhaglen frechu yn llwyddiant.

“Mae’r adolygiad yr wythnos hon yn golygu ein bod ni’n gallu parhau â’r rhaglen i ailagor yr economi a llacio’r cyfyngiadau,” meddai’r Prif Weinidog.

“Gyda’r tywydd yn gwella, a rhagor o gyfleoedd i weld teulu a ffrindiau, mae yna resymau i fod yn gadarnhaol.

“Ond, mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, ac mae’n rhaid i ni wneud ein rhan i gadw’r afiechyd marwol yma draw.”

Ebrill

Bydd Mark Drakeford yn cadarnhau bod pob siop a gwasanaethau cyswllt agos – fel siopau harddwch – yn cael ailagor ar Ebrill 12.

Yn ogystal, bydd teithio rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cael ei ganiatáu o 12 Ebrill ymlaen hefyd.

Bydd myfyrwyr yng Nghymru hefyd yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar y dyddiad hwnnw.

Bydd modd ymweld â lleoliadau priodas drwy apwyntiad, ymgyrchu tu allan ar gyfer yr etholiadau, a bydd modd dechrau cynllunio ar gyfer cynnal nifer fechan o ddigwyddiadau peilot tu allan gyda rhwng 200 a 1,000 o bobol.

Bydd bwytai, caffis, a thafarndai yn cael ailagor tu allan o Ebrill 26 ymlaen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio gyda’r Cyngor Mwslemaidd i geisio trefnu treialau er mwyn i bobol allu dod ynghyd i ddathlu Eid.

Mai

Ar Fai 3, bydd gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u trefnu yn cael ailddechrau, a derbyniadau priodas tu allan yn cael mynd yn eu blaen. 30 o bobol fydd yn cael cyfarfod tu allan.

Wythnos wedyn, ar Fai 10, bydd campfeydd, canolfannau hamdden, a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor ar gyfer unigolion neu hyfforddiant un-i-un. Ni fydd dosbarthiadau ffitrwydd yn cael ailddechrau.

Bydd y rheolau hefyd yn caniatáu i ddwy aelwyd gyfarfod a dod at ei gilydd tu mewn.

Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw am wneud paratoadau fel bod y blaid fydd yn dod i rym wedi etholiadau’r Senedd yn gallu ystyried caniatáu gweithgareddau tu mewn i blant, ailagor canolfannau cymunedol, ac ailddechrau gweithgareddau tu mewn wedi’u trefnu i hyd at 15 o oedolion o Fai 17.

Ar ôl Mai 17, byddai’n bosib ystyried ailagor bwytai tu mewn, ac ailagor gweddill lletyai ymwelwyr cyn Gŵyl y Banc.

Byddai’r holl newidiadau yn golygu fod Cymru yn newid i Lefel Rhybudd 3 ar Fai 17, “yn amodol ar amodau iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol”.

Galw am arian ychwanegol i fusnesau lletygarwch

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw am arian ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch cyn iddyn nhw ail-agor.

Dywedodd arweinydd y blaid Adam Price AS: “Rhaid i’r Llywodraeth Lafur esbonio pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser iddyn nhw roi mwy o sicrwydd i fusnesau ynghylch pryd y gallen nhw ddisgwyl ailagor. Ar ôl bod ynghau cyhyd, y lleiaf maen nhw’n ei haeddu yw mwy o amser i baratoi.

“Tra bod y newyddion hyn yn cynnig llygedyn o obaith i letygarwch, bydd yn cymryd amser eto cyn y gall y sector ailagor yn llawn. Mae’n ddyletswydd ar Lafur i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i helpu’r busnesau hynny i fynd yn ôl ar eu traed – gan gynyddu’r pot o arian parod sydd ar gael i fusnesau. Dro ar ôl tro, mae busnesau Cymru, sy’n ffurfio asgwrn cefn ein heconomi, wedi cael eu siomi a’u gadael ar ôl gan y llywodraeth Lafur hon.

“Yn y cyfamser, dylai campfeydd allu ailagor yn ddiogel nawr – yn anad dim i helpu gyda lles ac iechyd meddwl pobl sydd wedi dioddef cymaint yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.”

“Trueni” na fydd campfeydd yn ailagor yn gynharach

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n “croesawu ailagor” y sector manwerthu, ond ei bod hi’n “drueni” na fydd campfeydd yn ailagor yn syth.

“Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gynnig amserlen fanwl i deuluoedd, gweithwyr, a busnesau allu gadael y cyfnod clo yng Nghymru,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Er ein bod ni’n croesawu ailagor y siopau na sy’n hanfodol, mae’n drueni nad yw’r Blaid Lafur yn gweld ei bod hi’n bosib caniatáu i gampfeydd agor yn sâff – o ystyried fod eu gweinidogion wedi honni fod hyn yn flaenoriaeth ddeufis yn ôl, ac o ystyried yr effaith mae’r cyfnod clo wedi’i gael ar leisiant corfforol a meddyliol miloedd o bobol yng Nghymru.

“Gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud â’r rhaglen frechu, a’r lleihad yn nifer yr achosion, rydym ni’n credu y dylid fod wedi ystyried ailagor bwytai tu allan,” ychwanegodd Andrew RT Davies.

Ddoe (Mawrth 31), fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw am ailagor campfeydd a’r sector lletygarwch awyr agored.