Mae Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron wedi cyhoeddi trydydd cyfnod clo gydag ysgolion yn cau a gwaharddiad ar deithio o fewn y wlad am fis.
Daw hyn wrth i achosion o Covid yn y wlad gynyddu gan roi pwysau ar ysbytai. Roedd nifer y cleifion Covid-19 oedd yn cael triniaeth gofal dwys mewn ysbytai yno wedi cyrraedd mwy na 5,000 erbyn dydd Mawrth (Mawrth 30), y tro cyntaf ers 11 mis i’r ffigwr fod mor uchel.
Wrth annerch y genedl ar y teledu dywedodd Emmanuel Macron y bydd ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn cau am dair wythnos, gyda chyrffiw cenedlaethol rhwng 7yh-6yb yn aros mewn grym. Bydd y cyfyngiadau yn dechrau ddydd Sadwrn.
“Os y’n ni’n aros yn unedig yn yr wythnosau i ddod… yna fe welwn ni olau ar ddiwedd y twnnel,” meddai.
Fe fydd cyfyngiadau sy’n berthnasol i ranbarth Paris a rhannau eraill o ogledd a dwyrain Ffrainc yn cael eu hymestyn i’r wlad gyfan, am o leiaf fis.
O dan y cyfyngiadau yma, mae pobl yn cael mynd allan ar gyfer adloniant ond o fewn ardal o 10 cilomedr yn unig o’u cartrefi, ac nid ydyn nhw’n cael cwrdd mewn grwpiau. Mae’r rhan fwyaf o siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol wedi cau.
Dros y misoedd diwethaf mae’r llywodraeth wedi cyflwyno polisi sy’n canolbwyntio ar gyfyngiadau rhanbarthol.
Fe fydd dadl yn cael ei gynnal yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Ebrill 1) er mwyn trafod y sefyllfa a’r mesurau newydd.
Dywedodd Emmanuel Macron y bydd nifer y gwlâu mewn unedau gofal dwys yn cynyddu “yn y dyddiau nesaf” o 7,000 i 10,000.