Fe fydd biliau ynni pymtheg miliwn o aelwydydd yn cynyddu bron i £100 y flwyddyn o heddiw (Dydd Iau, Ebrill 1) ar ôl i Ofgem ganiatáu i gyflenwyr drosglwyddo’r cynnydd mewn prisiau nwy a thrydan i gwsmeriaid.
Fe gyhoeddodd y rheoleiddiwr ym mis Chwefror y gallai’r cap ar brisiau ar gyfer 11 miliwn o aelwydydd sydd ar y tariff cyffredinol godi o £96 i £1,138 o Ebrill 1.
Fe fydd pedwar miliwn o gwsmeriaid ychwanegol sy’n talu drwy roi arian yn y mesurydd yn gweld cynnydd o £87 y flwyddyn i £1,156.
Mae cwsmeriaid wedi cael eu hannog i chwilio am y fargen orau ers i’r cynnydd gael ei gyhoeddi.
Daw’r penderfyniad ar ôl i Ogfem ganiatáu i gyflenwyr godi £23 ychwanegol i gwsmeriaid oedd heb dalu eu biliau. Yn ystod y pandemig mae cyflenwyr wedi’i chael yn anodd cael rhai aelwydydd i dalu eu biliau ac fe benderfynodd Ofgem bod angen caniatáu iddyn nhw ledaenu’r gost.
Daw hyn wrth i nifer y bobl sy’n ddiwaith gynyddu i 1.7 miliwn ym mis Ionawr a thra bod 4.7 miliwn yn dal ar y cynllun ffyrlo.
Mae Ofgem yn adolygu ac yn newid y cap ar brisiau unwaith bob chwe mis.