Bydd tua dwy filiwn o bobol yn y Deyrnas Unedig yn derbyn codiad cyflog wrth i’r isafswm cyflog gynyddu heddiw (Ebrill 1).

Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi 2.2% gan gynyddu i £8.91 yr awr, a bydd yn cael ei roi i bobol 23 a 24 oed am y tro cyntaf.

Yn ôl gweinidogion mae’r cynnydd yn golygu bod gweithiwr llawn amser sy’n derbyn Cyflog Byw Cenedlaethol yn ennill £5,400 yn fwy bob blwyddyn nag yn 2010, a bydd gweithwyr yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, glanhau, a chynnal a chadw yn elwa.

“Mae’r Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol wedi codi bob blwyddyn ers iddyn nhw gael eu cyflwyno, gan gefnogi’r bobol sy’n cael y cyflog isaf. Er gwaetha’r heriau sydd wedi’n hwynebu ni’n ddiweddar, ni fydd pethau’n wahanol eleni,” meddai Boris Johnson.

“Dyna pam ein bod ni’n rhoi codiad cyflog haeddiannol i ddwy filiwn o bobol, a fydd yn hwb i deuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

“Er mwyn sicrhau nad ydi’r genhedlaeth nesaf yn cael ei gadael ar ôl, bydd pawb dros 23 oed yn gymwys.”

“Mewn blwyddyn anodd, rydym ni’n amddiffyn gweithwyr drwy roi arian ym mhocedi’r gweithwyr sy’n cael y cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng.

“Bydd y cynnydd yn helpu miliynau o deuluoedd ym mhob cornel o’r wlad, ac yn cefnogi busnesau wrth i ni ailagor yr economi ac adfer wedi’r pandemig.

“Rydw i’n annog gweithwyr i wirio eu pacedi pae, a sicrhau eu bod nhw’n cael y cyflog cywir, ac i atgoffa cyflogwyr am eu dyletswydd i dalu’r cyflog iawn.”

“Bwlch mawr yn dal i fodoli”

Dywedodd y Living Wage Foundation y bydd gweithwyr sy’n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol yn derbyn £1,150 yn fwy dros y flwyddyn nesaf, o gymharu â phobol sydd ar Gyflog Byw Cenedlaethol.

“Mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol wedi cyflwyno codiad cyflog cadarn i weithwyr ar isafswm cyflog ers i’r rhaglen gael ei chyflwyno, ac rydym ni’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth yn parhau i’w gynyddu,” meddai Laura Gardiner, Cyfarwyddwr y Living Wage Foundation.

“Ond, mae bwlch mawr yn dal i fodoli rhwng y cyflog yma a’r cyflog sy’n seiliedig ar gost byw, gyda gweithwyr sydd ar Gyflog Byw Cenedlaethol yn derbyn biliynau o bunnoedd yn llai yn y bum mlynedd ddiwethaf o gymharu â phobol sy’n derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol.

“Mae nifer y cyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byd Gwirioneddol wedi parhau i dyfu, hyd yn oed yn ystod y pandemig, wrth i fusnesau gydnabod gwerth cael gweithlu iach sy’n barod i weithio.”