Mae cwmni dillad a nwyddau cartref Next wedi cyhoeddi bod eu helw wedi ei haneru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i fwy na hanner eu siopau fod ynghau am y rhan fwya’ o’r flwyddyn oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.
Roedd elw cyn treth y cwmni wedi gostwng 54% i £342m am y flwyddyn hyd at fis Ionawr, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd bod y gostyngiad mewn elw yn bennaf oherwydd costau Covid-19 a gostyngiad mewn gwerthiant oherwydd y cyfyngiadau clo, gyda gwerthiant y grŵp yn gostwng 17% i £3.6bn am y flwyddyn.
Serch hynny, dywed y grŵp eu bod yn rhagweld y bydd eu helw’n codi yn ystod y flwyddyn ar ôl gweld cynnydd mewn gwerthiant ar-lein yn ystod yr wyth wythnos ddiwethaf.
O ganlyniad i hynny, mae’n disgwyl cyhoeddi elw cyn treth o £700 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Dywed y grŵp eu bod yn gobeithio y bydd llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu y bydd eu siopau yn gallu parhau ar agor am weddill y flwyddyn. Ond ni fydd yn cwrdd â’u targedau gwerthiant ac elw am y flwyddyn os na fydd hyn yn digwydd.