Mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd Boris Johnson yn caniatáu teithio rhyngwladol o Fai 17.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth raglen Good Morning Britain ei fod yn gobeithio y bydd Boris Johnson yn symud y dyddiad ymhellach i’r dyfodol yn ystod ei anerchiad wythnos nesaf.
“Rydw i wedi dadlau ers tro fod y dyddiad yma yn or-obeithiol, ac nad yw’n adlewyrchu’r perygl o ailgyflwyno’r feirws o rannau eraill o’r byd lle mae amrywiolion newydd yn lledaenu,” meddai Mark Drakeford.
“Pan fydd y Prif Weinidog yn siarad wythnos nesaf, rydw i’n gobeithio y bydd yn dweud fod y dyddiad hwnnw’n symud ymhellach i’r dyfodol er mwyn gwarchod y Deyrnas Unedig rhag y datblygiadau rydym ni’n eu gweld mewn llefydd eraill ar draws y byd.”
“Mwynhau’r hyn sydd gennym ni gartref”
Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n annog pobol yng Nghymru i fynd ar wyliau yng Nghymru dros yr haf, yn hytrach na mynd dramor.
“Os fuodd yna flwyddyn erioed i fwynhau’r hyn sydd gennym ni gartref, a darganfod mannau yng Nghymru na fuoch chi erioed o’r blaen, eleni yw’r flwyddyn honno,” ychwanegodd.
“Nid yw’n realistig atal pobol [rhag mynd dramor], ac ni fyddwn yn ymdrechu i wneud hynny. Fy nghyngor i bobol yng Nghymru eleni yw: aros adre, mwynhau’r hyn sydd gennym ni yma.
“Peidiwch â rhoi eich hunain, na phobol eraill, mewn perygl.”
Angen “sicrhau nad ydym ni’n colli tir”
Bydd Mark Drakeford yn cyhoeddi’r camau diweddaraf i leddfu’r cyfyngiadau mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Iau 1 Ebrill).
“Mae lefelau’r coronafeirws yng Nghymru yn is nag unman arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae cyfraddau brechu yn uwch. Golyga hynny fod y feirws mewn sefyllfa eithaf sefydlog.
“Mae’n rhaid i ni gynnal hynny, mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau nad ydym ni’n colli tir.
“Gan gymryd ein bod yn gallu gwneud hynny, rydym wedi gosod dyddiadau newydd o rwan nes mis Mai ar gyfer adfer rhyddid, ailagor busnesau, a manteisio ar yr adeg yma o’r flwyddyn er mwyn ailddechrau gweithgareddau tu allan.”