Mae Cod Cefn Gwlad newydd wedi cael ei lansio heddiw (Ebrill 1), gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England, 70 mlynedd ers creu’r llyfryn cyntaf.

Wrth i fwy o bobol fwynhau’r awyr agored, mae’r cod wedi cael ei adnewyddu er mwyn helpu pobol o bob oed a chefndir i fwynhau cefn gwlad mewn ffordd ddiogel a pharchus.

Mae’r diweddariad wedi’i ddylanwadu gan bron i 4,000 o ymatebion gan bobol oedd am leisio’u barn ynghylch yr arferion gorau er mwyn ymweld â chefn gwlad, a diogelu’r amgylchedd naturiol.

Mae’r newidiadau allweddol i’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys:

  • Cyngor newydd i bobol “fod yn gyfeillgar, dweud helo, a rhannu’r lle”, yn ogystal â mwynhau’r ymweliad.
  • Nodyn i atgoffa pobol i beidio â bwydo da byw, ceffylau, nag anifeiliaid gwyllt
  • Cyfarwyddyd i aros ar lwybrau troed wedi’u marcio er mwyn diogelu cnydau a bywyd gwyllt.
  • Gwybodaeth am ganiatâd i wneud rhai gweithgareddau fel nofio gwyllt.
  • Rheolau cliriach i gerddwyr cŵn fynd â baw ci adre, a defnyddio eu bin eu hunain os nad oes biniau gwastraff cyhoeddus.
  • Newid naws, drwy greu canllaw yn hytrach na rhestr o reolau.
  • Geiriad newydd i’w gwneud hi’n glir fod y cod yn berthnasol i holl leoedd naturiol, gan gynnwys parciau, dyfrffyrdd, yr arfordir, a chefn gwlad.

“Conglfaen i’n perthynas â’r awyr agored”

“Ers 70 mlynedd, mae’r Cod Cefn Gwlad wedi bod yn gonglfaen i’n perthynas â’r awyr agored – adnodd dibynadwy a hanfodol sy’n helpu pobl i fwynhau eu hamgylchedd naturiol yn ddiogel ac yn barchus,” meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid yng Nghymru sydd wedi chwarae eu rhan wrth lunio’r cod wedi’i ddiweddaru rydym yn ei lansio heddiw.

“Gyda mwy a mwy ohonom yn gwneud y gorau o’n cefn gwlad hardd a gyda thywydd cynhesach a dyddiau hirach ar y ffordd, ni fu glynu wrth y cod erioed yn bwysicach.

“P’un a ydych chi’n dychwelyd i leoedd poblogaidd, neu’n mynd i gyrchfan am y tro cyntaf erioed, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi ar gyfer eich taith ymlaen llaw ac yn glynu at y cod pan fyddwch yn cyrraedd yno.”

“Annog pobol i ddeall a parchu’r cod”

“Mae cefn gwlad Cymru yn cynnig llu o fanteision i’r cyhoedd, ac yn gweithredu fel campfa werdd ar gyfer ymarfer corff a hamdden awyr agored, yn ogystal â bod yn gefndir trawiadol sy’n cael ei gynnal gan ffermwyr sydd hefyd yn helpu i sicrhau fod y wlad yn cael ei bwydo,” ychwanega John Davies, Llywydd NFU Cymru.

“Mae pwysigrwydd cefn gwlad Cymru wedi dod yn amlwg iawn yn ystod pandemig Covid-19, ac mae wedi bod yn noddfa i filiynau o ymwelwyr er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a’u lles meddyliol.

“Mae’r Cod Cefn Gwlad hwn, sydd ar ei newydd wedd, yn arf pwysig i helpu i ddelio â’r pwysau ychwanegol a roddir ar gefn gwlad gan gerddwyr a phobl sy’n mwynhau ein hamgylchedd amaethyddol. Byddwn yn annog pobl i ddeall a pharchu’r Cod, yn enwedig o ran cadw at hawliau tramwy cyhoeddus, sicrhau fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth a gwaredu baw cŵn mewn biniau.”

Môr o sbwriel ym mae Caerdydd

Poteli gwydr, bagiau plastig a bocsys cardbord cwrw ymhlith y llanast