Mae Heddlu’r Metropolitan yn cynnal ymchwiliad i honiadau bod dwy o’u swyddogion wedi cael eu treisio gan heddwas.

Nid yw’r heddwas wedi cael ei gyhuddo na’i atal o’i waith ond fe fydd yn wynebu gwrandawiad camymddwyn, mwy na thair blynedd ar ôl i’r honiadau gael eu gwneud, yn ôl ymchwiliad gan y BBC ynghyd a’r Bureau of Investigative Journalism.

Yn ôl adroddiadau, roedd y ddwy fenyw mewn perthynas gyda’r swyddog cyn cael eu cyflwyno i’w gilydd gan ffrind.

Yn ôl y BBC roedd y ddwy wedi gwneud honiadau ar wahân o ymosodiad corfforol a rhywiol yn 2017. Roedd yr heddwas wedi gwadu’r honiadau.

Cafodd ymchwiliad gan Heddlu Essex a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ollwng yn 2019 oherwydd diffyg tystiolaeth.

Ond yn ôl un o’r menywod, roedd ’na wendidau yn y modd y cafodd yr ymchwiliad ei gynnal a’r modd aethpwyd ati i gasglu tystiolaeth.

“Lle i wella”

Mewn datganiad i’r BBC roedd Heddlu Essex wedi dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliadau trylwyr ond yn cydnabod bod “lle i wella wrth reoleiddio’r ymchwiliadau yma”.

Y llynedd cafodd un o’r menywod iawndal o £17,100 gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA) oedd yn dweud bod “tystiolaeth yr heddlu yn awgrymu eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth rywiol.”

Cafodd y fenyw arall iawndal o £11,600 gan CICA gan ddweud ei bod wedi’i threisio ac wedi dioddef “camdriniaeth gorfforol ddifrifol.”

Mae Heddlu’r Metropolitan wedi dweud wrth y BBC eu bod yn cymryd “pob honiad o drais yn y cartref o ddifrif a’i bod yn briodol bod holl amgylchiadau’r achos yma yn cael eu hystyried mewn gwrandawiad.”