Dylai pobol “feddwl yn ofalus iawn” cyn croesi Clawdd Offa er mwyn cael peint yn Lloegr, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Bydd bwytai a thafarndai yn ailagor yn Lloegr (gwasanaethau tu allan yn unig) ar Ebrill 12, bythefnos cyn y bydd busnesau Cymru yn medru gwneud yr un fath.
Mae Mark Drakeford yn derbyn y bydd yna demtasiwn i deithio i Loegr er mwyn manteisio ar y llacio rheolau, ond mae hefyd yn galw ar y Cymry i ystyried goblygiadau eu gweithredoedd.
“Cyfraddau coronafeirws Cymru yw’r isaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai. “Maen nhw’n uwch yn Lloegr, ac ar eu huchaf yng ngogledd orllewin Lloegr.
“Mi fyddech yn sicr yn ymweld â lle, lle mae’r risg yn uwch. Rydym yn gwybod bod yna amrywiolyn o’r feirws ym Mryste, a hyd yma rydym wedi llwyddo’i gadw allan o Gymru yn llwyr.
“Fy neges i i bobol sy’n ystyried teithio dros y ffin yn ystod yr wythnosau rheiny cyn i bethau agor yng Nghymru, yw i feddwl yn ofalus iawn am hynny.
“Fyddwch chi ddim yn gorfod aros yn hir cyn y byddwch yn medru mwynhau yn union yr un fath o bethau yng Nghymru lle mae cyflwr presennol y feirws yn peri llai o fygythiad.”
Yfed yn y Bae
Nos Fercher wnaeth dros 100 o bobol ymgynnull ar risiau’r Senedd i gymdeithasu ac yfed.
Cafodd tri swyddog heddlu eu hanafu wrth ymateb i’r digwyddiad, a chafodd dyn 21 oed a bachgen 16 oed eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Yn siarad â BBC Radio Wales fore heddiw, dywedodd Mark Drakeford bod y cyfan yn “sioc” iddo.
“Dw i wedi gweld lluniau, a dw i wedi clywed adroddiadau teledu,” meddai. “A bod yn onest mae’n sioc.
“Dw i wedi bod yn frwd iawn o blaid agwedd yr heddlu – hysbysu, addysgu a pherswadio. A dyna’n sicr yw’r peth iawn i’w wneud i ddechrau.
“Pan mae pobol yn bwrw ati yn fwriadol i wneud pethau sy’n medru achosi niwed i bobol eraill, yna mae gan awdurdod lleol a’r heddlu’r pwerau y maent yn medru eu defnyddio.”