Mae map awyr dywyll newydd wedi dangos fod Cymru’n gwneud yn dda wrth fynd i’r afael â llygredd golau.

Cafodd Land Use Consultants gomisiwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru i greu’r map gan ddefnyddio delweddau lloeren o Gymru a gafodd eu tynnu am 1:30am.

Datgelodd y map Awyr Dywyll a Llygredd Golau fod mwy na 68% o’r wlad yn dod o fewn y ddau gategori tywyllaf ar gyfer awyr y nos.

Roedd yn dangos, hefyd, fod 95% o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru yn dod o fewn y categorïau hynny.

Mae arwyddion fod y golau sy’n cael ei allyrru mewn dinasoedd i’w weld yn gostwng, hefyd.

Mae posib defnyddio’r map awyr dywyll a llygredd i dynnu sylw at awyr dywyll fel adnodd pwysig, ac fel sylfaen y dystiolaeth ar gyfer creu gwarchodfeydd awyr dywyll newydd posib yng Nghymru.

Gellir ei ddefnyddio hefyd i hyrwyddo manteision goleuadau sydd ddim yn amharu ar awyr dywyll, ac annog pobol i ystyried llygredd golau wrth lunio ceisiadau cynllunio a dylunio datblygiadau’r adferiad gwyrdd.

“Gall fod o fudd i’n hiechyd a’n lles, a’n bywyd gwyllt lleol”

Yn ogystal, mae’r map yn darparu tystiolaeth ar gyfer cynlluniau rheoli, asesiadau seilwaith gwyrdd, ac asesiadau lles a all nodi lle y gallai lleihau llygredd golau fod o fudd i rwydweithiau bywyd gwyllt a natur.

“Gall awyr dywyll effeithio ar ein profiad o fyd natur, tirweddau, a mannau gwyrdd, a gall fod o fudd i’n hiechyd a’n lles, a’n bywyd gwyllt lleol,” meddai Jill Bullen, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Dirweddau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

“Er mai mewn tirweddau anghysbell a gwledig y ceir awyr dywyll gan mwyaf, gellir gwella ein profiad o awyr y nos mewn trefi ac aneddiadau drwy leihau llygredd golau a defnyddio goleuadau nad ydynt yn amharu ar yr awyr dywyll.

“Mae cadw goleuadau ymlaen yn hirach nag sydd ei angen neu unedau sy’n taflu golau i fyny, yn hytrach nag i’r lle mae ei angen fwyaf, yn cyfrannu at wawl yn yr awyr, amhariad golau ac yn ychwanegu at lygredd golau.

“Erbyn hyn mae gan lawer o awdurdodau lleol bolisïau arbed ynni ar waith sy’n effeithio ar oleuadau ac yn cyfrannu at ddyfodol carbon is,” ychwanega.

“Mae rhai goleuadau’n cael eu pylu, eu goleuo am ran o’r nos neu eu diffodd drwy’r nos lle mae’n bosibl ac yn ddiogel gwneud hynny, a gall gwaith uwchraddio sy’n cynnwys gosod gorchuddion i bwyntio golau i lawr helpu i gynnal awyr dywyll yng Nghymru.”