Mae bron i un ymhob saith o bobl sydd wedi cael prawf positif am Covid-19 yn dal i gael symptomau dri mis yn ddiweddarach, yn ôl ffigurau newydd yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r ymchwiliad fwyaf o’i fath gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i Covid hir wedi darganfod bod pobl gyda coronafeirws yn fwy tebygol na gweddill y boblogaeth i gael symptomau sy’n parhau, gan gynnwys poenau yn y cyhyrau a blinder.

Ymhlith sampl o fwy na 20,000 o bobl oedd wedi cael prawf positif am Covid-19 rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni, roedd 13.7% yn parhau i gael symptomau am o leiaf 12 wythnos.

Roedd hyn wyth gwaith yn fwy na grŵp o bobol oedd yn annhebygol o fod wedi cael Covid-19, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o ddioddef Covid hir – 14.7% o fenywod o’i gymharu â 12.7% o ddynion.

Mae Covid hir hefyd yn fwyaf tebygol yn y grŵp oedran 25 i 34 oed o’i gymharu â grwpiau oedran eraill.

Ym mis Chwefror roedd cyfarwyddwr Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod effeithiau Covid hir “yn real ac yn sylweddol”.