Mae mam o ogledd Cymru wedi dweud ei bod wedi sylwi ar y bomiwr yn Arena Manceinion funudau cyn y ffrwydrad.

Dywedodd Sarah Nellist wrth yr ymchwiliad cyhoeddus sut y bu iddi chwilio am ei merch a’i nith, a sut y dilynodd gar gyda sticer Draig Goch ar y cefn er mwyn ffeindio ei ffordd yn ôl i Gymru.

Fe laddodd yr hunan-fomiwr, Salman Abedi, 22 o bobol a chafodd cannoedd eu hanafu pan ffrwydrodd fom ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande ar Fai 22 2017.

Ar y pryd, roedd Sarah Nellist yn sefyll ger y swyddfa docynnau yn y City Room gyda dwsinau o rieni eraill, yn disgwyl ei merch 17 oed, a’i nith 6 oed.

Fe wnaeth hi sylwi ar y bomiwr, a oedd yn gwisgo du ac yn cario’r bag gyda’r bom ar ei gefn, yn aros i filoedd o “ferched ifanc cyffrous” ddod trwy’r drysau.

“Fe wnes i weld o’n sefyll yna. Roedd o’n edrych yn rhyfedd. Roedd yna famau a thadau yno, a meddyliais ei fod yno i nôl ei chwaer, a’i fod o ddim eisiau bod yno,” meddai Sarah Nellist wrth yr ymchwiliad.

Eiliadau wedyn, pwysodd Salman Abedi’r botwm a ffrwydrodd y bom.

“Roeddwn yn ei weld o gornel fy llygad. Fe wnaeth o ffrwydro’r bom. Yr unig ffordd alla’ i ei ddisgrifio yw fel powdwr paent du. Sŵn uchel, gwichlyd nad ydw i erioed wedi clywed ei debyg o’r blaen, ac roedd y gwres yn anghredadwy.

Cafodd Sarah Nellist ei hanafu, a’i thaflu i’r llawr gan y ffrwydrad.

“Roeddwn i’n trïo sefyll. Roedd yna larwm tân yn canu. Nid oeddwn i’n gallu clywed yn iawn. Rhedais i’r dyrfa i geisio dod o hyd i fy merch a fy nith.

Daeth o hyd i’w merch a’i nith tu allan i’r arena, ac yna, er ei bod wedi brifo yn y ffrwydrad, llwyddodd i yrru adre i Gymru cyn mynd i’r ysbyty.

“Roedd fy nith wedi cael ei hysgwyd gan yr hyn welodd hi,” meddai Sarah Nellist, a wnaeth esbonio sut y gwnaethon nhw orchuddio wyneb ei nith fel na fyddai’n gweld beth oedd yn digwydd.

Ar ôl gadael maes parcio’r arena, gyda ffyrdd ar gau a dargyfeiriadau, nid oedd Sarah Nellist yn gwybod sut i ffeindio ei ffordd adre.

“Dilynais gar gyda sticer Draig Goch ar y cefn, dyna sut wnes i ffeindio fy ffordd adre.”

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd nad oedd pob bag yn cael ei wirio cyn gadael pobol mewn i’r arena.

“Nid oedden nhw’n gwirio pob un bag, ni chafodd bag fy merch ei wirio.”

Clywed lleisiau’r goroeswyr

Ar hyn o bryd, mae’r ymchwiliad cyhoeddus i’r bomio yn ystyried profiadau’r bobol oedd yno ar y noson.

“Mae angen gwneud gwaith i sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed,” meddai Paul Greaney QC, cwnsler yr ymchwiliad.

“Mae profiadau’r rhai a gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan yr ymosodiad yn cadarnhau’r angen i wneud popeth posib i atal ymosodiadau yn y dyfodol.

“I rai goroeswyr, bydd rhoi tystiolaeth yn hanfodol er mwyn ymdopi, a phrosesu’r profiad.

“I eraill efallai y bydd yn cynrychioli moment o gryfder – cyfle i ddweud yn gyhoeddus na fydd yr ymosodiad yn diffinio gweddill eu bywydau.”

“Roedd y cyngerdd i fod yn achlysur cyffrous a hapus dros ben, ac mae hynny’n dwysau’r arswyd.”

Dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus i ffrwydrad Arena Manceinion

Enwau’r 22 fu farw yn 2017 wedi cael eu datgan ar ddechrau’r gwrandawiad