Mae diweddariad i Ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’i ohirio ar ôl i’r Llywodraeth geisio ychwanegu nodwedd sy’n mynd yn groes i reolau Apple a Google.

Roedd y feddalwedd ar gyfer Cymru a Lloegr i fod i gael ei ddiweddaru ar 8 Ebrill, mewn pryd ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.

Hyd yn hyn, mae’r ap wedi galluogi pobol i nodi eu bod yn mynychu bariau a bwytai drwy sganio cod QR cyn iddynt fynd i mewn, ond roedd y data’n cael ei gadw ar ffôn yr unigolyn.

Os bydd lleoliad yn cael ei adnabod fel man peryglus o ran y feirws, caiff y data hwn ei anfon at bob dyfais, gan ganiatáu i’r ap groeswirio gyda log y perchennog ei hun o leoliadau a’u rhybuddio.

Cynlluniwyd fersiwn newydd o’r ap i awtomeiddio’r broses yn fwy, yn hytrach na gofyn am ganiatâd defnyddwyr i uwchlwytho pa leoliadau y maent wedi’u mynychu os ydynt yn profi’n bositif am Covid-19.

Dywedodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) y byddai hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n “diogelu preifatrwydd” ac yn caniatáu i rybuddion lleoliad gael eu cynhyrchu’n gyflymach, gan wella’r gallu i nodi lle mae achosion yn digwydd.

Ond mae hyn yn mynd yn groes i’r rheolau a osodwyd gan Apple a Google, sy’n nodi’n benodol bod yn rhaid i’r system a ddefnyddir yn yr ap “beidio â rhannu data lleoliad o ddyfais y defnyddiwr gydag Awdurdod Iechyd y Cyhoedd, Apple, neu Google”.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd: “Mae Ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn arf allweddol yn ein hymateb pandemig.

“Wrth i leoliadau ddechrau agor rydym yn annog pawb sy’n gallu defnyddio’r broses wirio lleoliadau newydd, sy’n cynnwys cynghori defnyddwyr i archebu prawf os ydynt yn mynychu lleoliadau lle mae nifer o bobl wedi profi’n bositif.

“Mae’r defnydd o ymarferoldeb ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i alluogi defnyddwyr i uwchlwytho pa leoliadau y maent wedi’u mynychu wedi’i ohirio.

“Nid yw hyn yn effeithio ar ymarferoldeb yr ap ac rydym yn parhau i gynnal trafodaethau gyda’n partneriaid i ddarparu diweddariadau i’r Ap sy’n diogelu’r cyhoedd.”