Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, wedi dweud bod adroddiad dylanwadol ar sut y mae protestiadau’n cael eu plismona yn “unochrog, yn anoddefgar ac yn tanseilio hawliau sifil a gwleidyddol”.

Defnyddiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr adroddiad gan Arolygiaeth Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) – ‘Cael y cydbwysedd yn iawn?’ – pan oedd yn drafftio Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd, sydd ar ei hynt drwy Senedd San Steffan.

Mae’r adroddiad yn dweud, yn fras, fod y cydbwysedd wedi symud yn ormodol o blaid protestwyr

Mae Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd yn cynnwys cynlluniau i roi mwy o bwerau i’r heddlu ymateb i brotestiadau heddychlon.

Mae protestwyr yn wynebu dirwyon o hyd at £2,500 a hyd at 10 mlynedd yn y carchar os cânt eu dyfarnu’n euog.

“Tanseilio hawliau sifil”

Yn dilyn gyrfa hir yn blismon, ac yna degawd o fod yn gynghorydd sir Plaid Cymru yn Wrecsam, cafodd Arfon Jones ei ethol i rôl y Comisiynydd yn 2016.

Bellach, mae wedi penderfynu camu o’r neilltu, a bydd yn rhoi’r gorau iddi yn swyddogol fis nesaf.

Ond cyn iddo adael, mae wedi datgelu ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel i gwyno am y Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd.

Wrth drafod y Bil, dywedodd Arfon Jones: “Er y dylid sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau unigolion i brotestio a budd cyffredinol y gymuned, nid wyf yn cytuno o gwbl bod y cydbwysedd wedi symud yn ormodol o blaid protestwyr.

“Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn unochrog, yn anoddefgar ac yn tanseilio hawliau sifil a gwleidyddol ac nid ydynt er budd y cyhoedd.

“Nid yw’r pwerau newydd yn y ddeddfwriaeth arfaethedig yn angenrheidiol a byddant yn atal protestiadau fel rydym yn eu hadnabod heddiw.

“Holl bwrpas protest yw tarfu a cheisio newid.

“Mae gan yr heddlu ddigon o bwerau i blismona protestiadau ac nid oes angen mwy arnynt.

“Nid wyf yn credu bod HMICFRS wedi cael y cydbwysedd iawn yn yr adroddiad hwn ac fel protestiwr profiadol am yr 50 mlynedd diwethaf mae’r canfyddiad bod yr heddlu’n ffafriol tuag at hawliau protestwyr yn wallus.”

“Rheoli dinasyddion”

Ychwanegodd: “Mae plismona protestiadau bob amser wedi bod, ac mi fydd o hyd, yn arf gan y wladwriaeth i reoli ei dinasyddion ac nid wyf yn cydweld a’r peth o gwbl.

“Mae Adnabod Wynebau’n Awtomatig mewn protestiadau di-drais yn ymyrryd â phreifatrwydd ac ni ddylid ei ddefnyddio.

“Dylid plismona protestiadau di-drais fel digwyddiadau – nid fel ymarfer trefn gyhoeddus.

“Mewn democratiaeth, mae’r hawl i brotestio weithiau’n golygu tarfu ar bobl, dyna yw pris byw mewn cymdeithas lle caniateir lleisio cefnogaeth i achos o’ch dewis.

“Mae’r cynigion hyn yn ceisio cyfyngu hynny i’r fath raddau fel y gall unrhyw brotest, boed fawr neu fach, gael ei chyfyngu’n sylweddol neu hyd yn oed ei chwtogi’n gyfan gwbl. Bydd yr effaith ar ryddid mynegiant yn sylweddol.”

Annog yr heddlu i “fod yn ofalus iawn”

“Mae’r adroddiad yn un tymor byr sy’n cael ei yrru gan wleidyddiaeth. Dylai’r heddlu fod yn ofalus iawn i beidio â chael eu tynnu i mewn i sefyllfa lle maen nhw sy’n penderfynu pa brotestiadau sy’n cael mynd yn eu blaen a chael eu dal yn y canol.

“Mae plismona gweithredu diwydiannol yn y 1970au yn ein hatgoffa y gallai plismona protestiadau achosi difrod tymor hir i’r berthynas rhwng y gymuned a’r heddlu.

“Mae’r Deyrnas Unedig a’i phobl wedi bod trwy flwyddyn anodd iawn, gyda chyfyngiadau eithriadol Covid-19 yn dod i ben wrth i’r pandemig gilio.

“Mae hwn yn amser i fyfyrio ac ystyried, nid amser i ruthro ymlaen gyda mesurau sydd wedi’u meddwl allan yn wael i orfodi rheolaeth anghymesur ar ryddid mynegiant.

“Gall deddfau o’r fath gysgodi gweinidogion a chorfforaethau rhag anghydweld cyhoeddus, ond pwy fyddai’n dymuno byw mewn cymdeithas lle mae materion o’r fath yn egwyddorion arweiniol deddfwriaeth?”

Ofnau y gallai cyfreithiau newydd fygwth rhyddid mynegiant, a gwaethygu anghydraddoldebau

Pryderon am y Bil, sy’n cychwyn ar ei ailddarlleniad yn San Steffan heddiw (Mawrth 15)