Mae holl siopau Cymru yn ailagor heddiw (Ebrill 12), ac yn ôl un perchennog siop mae cael ailagor yn “rhyddhad”.

Nid yw siopau sy’n gwerthu nwyddau anhanfodol wedi bod ar agor ers mis Rhagfyr, ac mae perchennog Siop Manon yng Nghaernarfon yn credu bod yr ailagor yn gyfle i “godi calonnau pobol leol”.

Daw hyn wrth i Gonsortiwm Manwerthu Prydain atgoffa pobol i gadw at y rheolau wrth siopa, a dweud bod rhaid bod yn “ofalus” ac “edrych ar ôl ein gilydd”.

“Rhyddhad”

“Mae o’n deimlad neis, mae o’n rhyddhad,” meddai Manon Elis, perchennog Siop Manon.

“Yn amlwg, rydyn ni gyd eisiau i bob dim fod yn sâff, ac roedden ni gyd fel siopau bach yn trïo’n gorau drwy’r flwyddyn ddiwethaf i fod yn sâff.

“Rydyn ni dal yn gofyn i bobol wisgo mygydau. Dw i, a siopau eraill tua’r un maint ar y stryd, yn gofyn i ddim ond tair swigen deuluol ddod mewn ar yr un pryd, ac i ddefnyddio’r diheintydd.

“Felly, rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n sâff, ac mae’r rhyddhad o gael ailagor yn neis,” pwysleisiodd Manon Elis wrth golwg360.

“Mae’n deimlad neis ar y stryd dw i’n meddwl. Dw i’n byw yng Nghaernarfon, ac roedd hyd yn oed mynd am dro efo’r ci ar hyd Stryd y Plas tra bod popeth wedi cau yn torri calonnau pobol.

“Dw i’n gobeithio bod hyn am godi calonnau pobol leol, a gobeithio na fyddwn ni’n gorfod cau eto.

“Mae’r gefnogaeth leol wedi bod yn wych, fe wnes i gychwyn y wefan ar ddiwrnod penblwydd y siop yn ddwy oed ar Ragfyr 1, wedyn diolch byth mod i wedi gwneud,” eglurodd Manon Elis, sy’n cadw’r siop anrhegion cyfoes a kitsch yng Nghaernarfon.

“Dw i ddim am ddweud celwyddau bod o’r un faint o fusnes â taswn i wedi bod ar agor, ond mae pobol leol wedi bod yn dod i archebu a phigo pethau fyny.

“Dw i’n gwybod fod pobol wedi bod yn ddiolchgar iawn o hynny yn ystod y cyfnod yma.

“Dw i’n gobeithio y byddwn ni’n gweld eu hwynebau nhw, ac yn medru eu croesawu’n nhw ôl dros yr wythnosau nesaf.”

Cynnig gwasanaeth gyda “phwyll a gofal”

Mae Elin Angharad yn cadw siop lyfrau newydd ac ail-law ym Mlaenau Ffestiniog, a dywedodd ei bod hi’n “edrych ymlaen at ailagor y siop ar ôl y cyfnod clo”.

Ers dechrau’r cyfnod clo mae’r siop wedi bod yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu, neu ddanfon yn lleol.

“Gallwn ni hefyd barhau gyda gwasanaeth clicio a chasglu, neu ddanfon i unrhyw gwsmeriaid lleol fydd yn parhau i deimlo yn bryderus am gyfnod,” meddai Elin Angharad, perchennog Siop Lyfrau’r Hen Bost, wrth golwg360.

“[Ond] rydw i’n barod i groesawu cwsmeriaid yn eu holau, gyda diolch hefyd am eu cefnogaeth gyda’r gwasanaeth clicio a chasglu dros y misoedd diwethaf,” meddai Elin.

“Ers dechrau’r cyfnod clo, a chyn hynny, mae’r gefnogaeth leol wedi bod yn arbennig dros y cyfryngau cymdeithasol,” meddai.

“Er hynny, mi fydd hi’n braf cael croesawu pobol i’r siop unwaith eto.

“Mae’r rheolau’n golygu mai dim ond dau berson sy’n cael dod mewn i’r siop ar y tro, gyda gorchudd wyneb, a gofynnwn iddyn nhw ddefnyddio diheintydd.

“Rydw i’n hyderu bod y cyfnodau clo nawr drosodd, ac y cawn barhau gyda chynnig ein gwasanaeth ar y stryd fawr gyda phwyll a gofal,” ychwanegodd Elin Angharad.

“Edrych ar ôl ein gilydd”

Fore heddiw, fe wnaeth ciwiau ymddangos tu allan i siopau yng Nghaerdydd, Casnewydd, ac Abertawe, gydag adroddiadau yn dweud bod “cannoedd o bobol” yn aros eu tro.

Roedd rhes hir o bobol i’w gweld yn ciwio tu allan i TK Maxx yng Nghaerdydd am 8 y bore, ac er bod y ciw wedi lleihau erbyn hyn, mae’n debyg bod ardal Yr Ais yn y brifddinas yn dal yn brysur.

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain mae siopau sy’n gwerthu popeth heblaw am fwyd wedi colli £30 biliwn mewn gwerthiannau yn ystod y cyfnodau clo.

“Mae cwsmeriaid yn ymddangos yn fwy hyderus ynghylch ymweld â siopau, gan ddangos fod mesurau diogelwch yn gwneud i bobol deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddychwelyd i siopau,” meddai Helen Dickson, Prif Weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain.

“Mae gwerthwyr yn barod, ac yn edrych ymlaen at groesawu pobol yn ôl i’w siopau.

“Gobeithio y bydd pethau’n dychwelyd i normal yn fuan, ond am nawr mae’n rhaid bod yn ofalus ac edrych ar ôl ein gilydd.

“Mae angen i ni chwarae ein rhan i gadw ein hunain, cwsmeriaid eraill, a gweithwyr y sector manwerthu, yn sâff. Felly, rydym ni’n gofyn i bobol gadw at y rheolau, a pheidio gorymateb os oes rhywun yn gofyn i chi wisgo mwgwd neu ddilyn cyfarwyddiadau diogelwch wrth i chi siopa.”

Holl siopau ac ysgolion yn ailagor yng Nghymru

… a’r sefyllfa ddiweddaraf o ran brechu yng Nghymru