Mae protestwyr wedi dod at ei gilydd yn ninas Minnesota lle mae teulu dyn du 20 oed yn dweud iddo gael ei saethu gan yr heddlu.
Dywedodd teulu Daunte Wright ei fod wedi cael ei saethu gan yr heddlu cyn gyrru i ffwrdd, a chael damwain yn fuan wedyn. Bu farw’n ddiweddarach.
Roedd ei farwolaeth wedi sbarduno protestiadau yn ninas Brooklyn Centre yn oriau man fore dydd Llun (Ebrill 12), wrth i lys yn Minneapolis barhau i gynnal achos yn erbyn swyddogion yr heddlu mewn cysylltiad â marwolaeth George Floyd.
Mewn datganiad dywedodd heddlu Brooklyn Centre bod swyddogion wedi stopio unigolyn ychydig cyn 2pm ddydd Sul. Roedd yr heddlu wedi ceisio arestio’r gyrrwr, meddai’r datganiad, ond roedd wedi mynd yn ôl i’w gerbyd a gyrru i ffwrdd. Roedd swyddog yr heddlu wedi tanio gwn at y cerbyd gan saethu’r gyrrwr.
Yn ôl yr heddlu roedd y cerbyd wedi teithio drwy sawl stryd cyn taro cerbyd arall.
Dywed yr heddlu byddan nhw’n cyhoeddi enw’r person ar ôl cynnal archwiliad post mortem cychwynnol a hysbysu’r teulu.
Roedd dynes oedd yn teithio yn y cerbyd wedi cael anafiadau, sydd ddim yn bygwth ei bywyd, yn y ddamwain.
Roedd Maer Brooklyn Centre, Mike Elliott, wedi cyhoeddi cyrffiw yn y ddinas tan 6yb ddydd Llun gan ddweud “ry’n ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel. Plîs cadwch yn ddiogel ac ewch adref.”
Mae disgwyl i’r achos yn erbyn Derek Chauvin, cyn-swyddog yr heddlu yn Minneapolis sydd wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth George Floyd, barhau heddiw.