Mae dyn yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol wrth baragleidio yn Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua chwe milltir i’r dwyrain o Llanfair-ym-Muallt.

Cafodd timau achub mynydd, Gwylwyr y Glannau, criwiau tân a pharafeddygon i gyd eu galw i leoliad y ddamwain a ddigwyddodd tua 2 o’r gloch y prynhawn, ddydd Sul (Ebrill 11).

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei anfon i’r digwyddiad hefyd.

Fe wnaeth y dyn ddioddef anafiadau difrifol yn ôl Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, a chafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei achub gan Wylwyr y Glannau.

Llun gan Dîm Achub Mynydd Aberhonddu

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Cawsom alwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 2.07yh ddydd Sul, 11 Ebrill.

“Cafodd nifer o griwiau eu paratoi o Landrindod a Llanfair-ym-Muallt, ynghyd â thimau arbenigol a gafodd eu sefyll i lawr wrth i dimau achub o Wylwyr y Glannau gymryd yr awenau.

“Daeth ein rôl ni yn y digwyddiad i ben am 5.05yh.”