Bydd gwerthwyr cylchgrawn y Big Issue ledled Cymru a Lloegr yn dychwelyd i’r stryd fawr heddiw (dydd Llun, Ebrill 12) am y tro cyntaf ers 22 wythnos.

Bydd tua 1,400 o werthwyr yn ailddechrau gwerthu’r cylchgrawn i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers y trydydd cyfnod clo cenedlaethol.

Mae camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod gwerthwyr a chwsmeriaid yn ddiogel, gan gynnwys darparu cyfarpar diogelwch personol, talu digyswllt, a mesurau iechyd a diogelwch llym ym mhob swyddfa ddosbarthu.

Er mwyn nodi’r achlysur fe fu’r Arglwydd John Bird, sylfaenydd y Big Issue, yn cyfarfod â phum gwerthwr yn Sgwâr Trafalgar, Llundain, lle lansiwyd rhifyn cyntaf erioed y cylchgrawn yn swyddogol bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae’r cylchgrawn yn ceisio mynd i’r afael a digartrefedd trwy helpu pobl i ennill incwm eu hunain.

“Gobaith”

Dywedodd yr Arglwydd John Bird: “Rydym yn llawn balchder a gobaith, ar ôl dros 22 wythnos o fod dan glo, fod ein gwerthwyr yn ôl allan, yn gallu ailgysylltu â’u cymunedau lleol ac ennill incwm cyfreithlon unwaith eto.

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi mor hael â’n gwerthwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Mae pob rhodd a thanysgrifiad sydd wedi’i wneud wedi golygu ein bod wedi gallu cefnogi gwerthwyr tra nad ydynt wedi gallu gwerthu’r cylchgrawn yn ddiogel ar y strydoedd.”