Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi galw am ymdrech fawr i berswadio “miliynau” o bleidleiswyr i gofrestru.

Ddyddiau’n unig cyn y dyddiad cau ar Ebrill 19 er mwyn cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, dangosa ffigurau’r Comisiwn Etholiadol nad ydi 17% o’r bobol sy’n gymwys i bleidleisio yng ngwledydd Prydain wedi cofrestru.

Mae hyn yn cynrychioli 9.4 miliwn o bobol, ac mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn rhybuddio y gallai “rhan anferth” o’r boblogaeth gael eu cau allan o’r etholiad yn sgil system “hen ffasiwn”.

Dangosa asesiad y Gymdeithas Diwygio fod ardaloedd gyda phoblogaeth uchel o fyfyrwyr, rhentwyr preifat, oedolion ifanc, a rhai grwpiau ethnig lleiafrifol, yn fwy tebygol o fod â niferoedd is yn pleidleisio.

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn galw am becyn o fesurau er mwyn cofrestru “miloedd o bleidleiswyr coll”, ac adnewyddu’r system “hen ffasiwn.”

Ymhlith yr argymhellion mae:

  • Caniatáu i bleidleiswyr wirio a ydyn nhw wedi cofrestru i bleidleisio ar-lein
  • Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, neu pan maen nhw’n cysylltu â chyrff cyhoeddus
  • Treialu cofrestru ar ddiwrnod yr etholiad
  • Creu ffiniau etholaethau yn seiliedig ar nifer y bobol sy’n gymwys i bleidleisio, yn hytrach na phobol sydd wedi cofrestru’n barod
  • Cael gwared ar gynlluniau i greu system adnabod (ID) pleidleisio.

“Angen ymdrech anferth”

“Gydag wythnos i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru, rydym angen ymdrech anferth gan gyrff cyhoeddus a’r gymdeithas sifil i sicrhau fod pawb wedi cofrestru, ac yn gallu pleidleisio ar Fai 6,” meddai’r Athro Jess Garland, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil y Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

“Yn anffodus, mae miliynau o bobol yn debygol o beidio â bod ar y gofrestr, gyda nifer yn credu eu bod nhw wedi cofrestru’n barod, neu’n methu’r ohebiaeth ynghylch y diwrnod cau.

“Mae pobol yn credu na ddylid gorfod dweud eich bod am bleidleisio, sy’n ddigon teg.

“Mae nifer o wledydd yn cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Dylwn ni wneud yr un fath. Mae’n sgandal fod naw miliwn o bobol ar goll o’r gofrestr – mae hyn yn taro pobol ifanc, rhentwyr, a rhai grwpiau ethnig lleiafrifol waethaf.

“Rydym angen ymgyrch hawliau pleidleisio anferth. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth yn benderfynol o wneud ID’s pleidleisio yn orfodol – polisi drud fyddai’n atal miliynau o bobol sydd heb ID rhag pleidleisio,” ychwanegodd.

“Byddai hyn yn ergyd drom i gydraddoldeb gwleidyddol, a dylai gweinidogion ailfeddwl.”