Mae Boris Johnson wedi annog pobl i “ymddwyn yn gyfrifol” wrth i dafarndai a bwytai ail-agor y tu allan yn Lloegr fel rhan o’r cynlluniau i lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.
Fe fydd siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol hefyd yn ail-agor ddydd Llun (Ebrill 12) yn ogystal â siopau trin gwallt, campfeydd, pyllau nofio, a sŵau.
Serch hynny fe fydd cyfyngiadau ar gymdeithasu y tu mewn gyda dau ymhob pump o oedolion eto i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19.
Mae’r Prif Weinidog wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus yn ystod y “cam mawr ymlaen” wrth i wyddonydd sy’n cynghori’r Llywodraeth rybuddio bod yn rhaid cadw at y rheolau er mwyn lleihau’r risg o achosion yn cynyddu unwaith eto.
“Dw i’n siŵr y bydd yn rhyddhad mawr i berchnogion busnes sydd wedi bod ynghau ers cyhyd ac i bawb arall mae’n gyfle i wneud rhai o’r pethau ry’n ni’n caru gwneud ac wedi gweld eu heisiau,” meddai Boris Johnson.
“Rwy’n annog pawb i barhau i ymddwyn yn gyfrifol ac i gofio ‘dwylo, wyneb, pellter, awyr iach’ i leihau’r risg o Covid wrth i ni fwrw mlaen gyda’r rhaglen frechu.”
Mae Heddlu’r Metropolitan wedi dweud y bydd rhagor o swyddogion ar ddyletswydd mewn mannau prysur yn Llundain o ddydd Llun.
Yma yng Nghymru mae’r cyfyngiadau wedi cael eu llacio ymhellach a bydd siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn ail-agor heddiw (Ebrill 12) a holl blant ysgol yn dychwelyd i’r dosbarth.