Mae Syr Anthony Hopkins wedi bod yn dathlu ennill Bafta am yr actor gorau tra ar ei wyliau yng Nghymru.

Enillodd yr actor 83 oed o Bort Talbot y wobr am ei ran yn portreadu dyn gyda dementia yn The Father.

Mae’r actor fel arfer yn byw yn Los Angeles, ond bydd yn aros yng Nghymru nes yr Oscars ddiwedd fis Ebrill.

“Ry’n ni ar wyliau hir, ry’n ni wedi bod mewn cyfnod clo, ac mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb felly ry’n ni wedi mynd ar wyliau. Rydym ni wedi cael ei brechu,” meddai Anthony Hopkins ar ôl y seremoni rithiol.

“Rydym ni’n cael amser tawel yng Nghymru, ac ry’n ni’n ddiolchgar ofnadwy i bawb, felly yma fyddwn ni.”

Enillodd Bafta am y tro cyntaf ym 1969 am ei ran yn The Lion In Winter, a dywedodd nad oedd yn disgwyl ennill eto.

“Mae’n wych. Rydw i wedi cyrraedd pwynt mewn bywyd lle nad oeddwn i’n disgwyl cael un eto.

“Cyrhaeddais bwynt yn fy mywyd ac roeddwn i’n amau a fyddwn i’n gweithio fyth eto, hunllef actor.

“Rydw i wedi fy synnu. Roeddwn i’n eistedd yma yn peintio, fel mae’n digwydd, yn fy ystafell yn y gwesty, wedi fy ngorchuddio mewn paent, a chlywais floedd drws nesaf, a meddyliais ‘Ydyn nhw’n gwylio gêm bêl-droed?’ Wedyn cefais neges gan Florian [Zeller, cyfarwyddwr The Father].”

Yn ôl Anthony Hopkins, mae actio yn ei “gadw allan o drwbl”.

“Heb swnio’n rhy drwm, actio yw’r unig beth dwi i’n gwybod sut i’w wneud.

“Dydw i ddim yn gwybod sut y gwnes i ddod yn actor. Nid oedd yn fwriad i mi wneud dim byd.

“Rydw i’n ei gadw’n syml. Dw i wrth fy modd. Mae’n fywyd gwych. Ac i allu cyfleu pethau, dw i’n trio peidio cymryd fy hun rhy o ddifrif, dw i’n gobeithio mod i ddim.”

Actorion o Gymru ymhlith yr enwebeion ar gyfer prif wobrau BAFTA

Morfydd Clark wedi’i henwebu ar gyfer gwobr ‘Rising Star’, ac Anthony Hopkins ymhlith yr enwebeion am wobr y prif actor