Fe fydd enillwyr gwobrau BAFTA 2021 yn cael eu cyhoeddi heno (nos Sul, Ebrill 11), pan gawn ni wybod a yw Anthony Hopkins a Morfydd Clark wedi bod yn llwyddiannus.

Mae Hopkins wedi’i enwebu yng nghategori’r prif actor am ei ran yn y ffilm The Father, ochr yn ochr â Riz Ahmed (Sound of Metal), Chadwick Boseman (Ma Rainey’s Black Bottom), Adarsh Gourav (The White Tiger), Mads Mikkelsen (Another Round) a Tahar Rahim (The Mauritanian).

Mae Morfydd Clark ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ‘Rising Star’ am ei rhan yn y ffilm Saint Maud, a bydd hi’n mynd ben-ben â Bukky Bakray (Rocks), Conrad Khan (County Lines), Kingsley Ben-Adir (One Night in Miami) a Ṣọpẹ́ Dìrísù (His House / Gangs of London).

Mae’r seremoni’n cael ei chynnal yn rhithiol eleni, ac fe gafodd nifer o wobrau eu cyhoeddi neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 10).

Enillodd Ma Rainey’s Black Bottom ddwy wobr – dylunio gwisgoedd, a gwallt a cholur – tra bod Mank, Rocks a Tenet hefyd wedi cipio gwobrau.

Enillodd Noel Clarke gydnabyddiaeth am ei gyfraniad i’r byd sinema.

Bydd y brif raglen heno’n cael ei chyflwyno gan Dermot O’Leary ac Edith Bowman, gydag 17 o wobrau’n cael eu rhoi, gan gynnwys gwobr arbennig i’r cyfarwyddwr Ang Lee, fydd yn dod yn Gymrawd BAFTA.

Ymhlith y cyflwynwyr eraill ar y noson fydd Hugh Grant, Priyanka Chopra a Tom Hiddleston a byddan nhw’n mynd i Neuadd Albert.

Ymateb Morfydd Clark

“Fi dal ffaelu credu fe,” meddai Morfydd Clark wrth siarad â chylchgrawn Golwg o Seland Newydd yn ddiweddar, a hithau yno’n ffilmio cyfres Lord of the Rings.

“Pan oeddwn i wedi clywed fy mod i wedi cael enwebiad, o’n i jyst fel: ‘Sa i’n gwybod sut i deimlo am hwn, fi’n gwybod fod e’n rili dda’.

“Ac wedyn pan oeddwn i wedi gweld pawb arall oedd wedi cael enwebiad gyda fi – ac mae’r rhain yn bobol fi wedi gweld eu gwaith nhw – oeddwn i fel: ‘O! Mae hwn yn rili neis’… “Felly i weld fy hun yn rhan o’r grŵp yna, mae’n amazing, a fi dal yn teimlo fatha ‘pinch me’ amdano fe…

“Fi jyst yn teimlo fel bo fi ar cloud nine ar y foment, a sa i’n gallu mynd yn uwch i ddweud y gwir, felly fi’n teimlo fel bo fi lan fynna yn barod. Ond mae’n rili neis,” meddai, cyn ychwanegu bod yr enwebiad wedi cynnig sicrwydd iddi fel actores.

“Fi’n meddwl yn y swydd yma, mae certainty yn rhywbeth ti ddim yn teimlo lot ac mae hwn ar y foment wedi rhoi certainty – ‘ti wedi gwneud yn dda’ – ac mae hwnna’n rili neis.”

Y Gymraes sy’n dringo tua’r sêr

Alun Rhys Chivers

Mae Morfydd Clark yn y ras am wobr fawreddog BAFTA sydd wedi ei hennill gan actorion adnabyddus megis Kristen Stewart, James McAvoy a Tom Hardy