Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Rwy newydd ddechrau ar Decline and Fall gan Evelyn Waugh, sy’n syndod o ddoniol hyd yma. Fe brynais i hwn am fod cyfeiriadau ato mewn llyfr a orffennais yn ddiweddar – Passage to Juneau gan Jonathan Raban. Hefyd, rwy ar fin casglu Kitchen Confidential gan Anthony Bourdain o fy siop leol. Rwy wrth fy modd â bwyd da, coginio a bwytai, a chyfaill i mi (sy’n llenor a chogydd) wnaeth argymell hwn.