Ers dechrau datganoli dim ond un person sydd wedi cynrychioli etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ym Mae Caerdydd, sef Kirsty Williams ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond wedi dau ddegawd a mwy yn cynrychioli’r sedd mi fydd Gweinidog Addysg presennol Llywodraeth Cymru yn camu o’r neilltu.
Ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu mai cyfrifoldeb William Powell fydd amddiffyn y sedd.
Dyma’r unig etholaeth sy’n cael ei chynrychioli gan y blaid yn y Senedd ar hyn o bryd, ac mae arolygon barn yn awgrymu’n gryf mai dyma’r unig sedd sydd ganddyn nhw obaith o’i hennill.
Felly mae yna dipyn o bwysau ar William Powell, ond nid yw’r sefyllfa yn un llwm iddo.
Mae wedi bod ar Gyngor Sir Powys ers 2004, ac mae ei gysylltiad â’r etholaeth yn ddwfn.
Cafodd ei fagu yn ardal Talgarth, ger Aberhonddu, ac mae’n dal i fyw yno – mae’n byw ar fferm a’i deulu wedi ffermio yn yr ardal ers y 18fed ganrif.
Ar ben y cyfan bu’n ‘Aelod Cynulliad’ tros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016, ac felly nid yw’r Senedd yn lle cwbl estron iddo chwaith.
Ym mis Mawrth y llynedd daeth i’r amlwg bod William Powell yn ddifrifol wael â’r coronafeirws, ac mi wnaeth gwleidyddion amlwg o bob lliw rannu eu cydymdeimladau ag ef.
Mae bellach wedi gwella, ac mae’n teimlo bod y profiad wedi ei lenwi gydag awch newydd.
Ac mae hefyd am bwysleisio bod ei brofiad yn y Bae rhwng 2011-2016 yn fanteisiol hefyd.
“Dw i’n deall y drefn, sut mae pethau yn gweithio, a gofynion y swydd,” meddai. “Ac mae sawl agwedd ar y rôl.
“Dw i’n credu bod y sefyllfa yn gofyn am rywun â hanes blaenorol – rhywun sydd wedi profi eu bod yn medru gwneud y swydd, a rhywun rydych yn medru ymddiried ynddo.
“Dw i’n credu bod hynny’n bwysig. A hoffwn ailymrwymo fy hun, yn enwedig o ystyried fy mod yn bersonol wedi derbyn ail gyfle’r llynedd oherwydd fy heriau covid personol ac ati.
“Dw i’n credu bod hynny wedi rhoi symbyliad newydd i mi fynd i’r afael â’r heriau anferthol yma rydym yn eu hwynebu.
“Fydd yr etholiad ddim yn hawdd, nac ychwaith y rôl o gynrychioli’r sedd pe bawn yn ei hennill. Maen nhw yn hynod heriol.
“Dw i ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol,” atega. “Dw i’n barod i wasanaethu, a dw i’n barod i ymladd am bob un bleidlais.”
Wnaeth Kirsty Williams ennill pob un etholiad gyda mwyafrif diogel – mi enillodd 52.4% o’r bleidlais yn yr etholiad diwethaf yn 2016, gyda’r Ceidwadwyr yn ail iddi gyda 25.4%.
Mae’r Ceidwadwyr bob tro wedi dod yn ail yn y sedd ac mae William Powell yn dweud mai “dim ond dau enillydd posib sydd yna” sef y Torïaid a’i blaid yntau.
Pe bai’n ennill y sedd mi fyddai’n anelu i “dywys a chefnogi ein cymunedau a busnesau” trwy’r pandemig.
Mae hefyd yn hynod awyddus i wella gwasanaethau iechyd meddwl, ac i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd trwy gefnogi swyddi gwyrdd a mesurau sy’n delio â llygredd.
“Mae’r bobol fan hyn yn barod am newid”
James Evans yw ymgeisydd y Ceidwadwyr eleni, ac mae yntau’n awyddus i gynnig “wyneb ffres, a llais newydd a chryf”.
Ers etholiad Senedd 2016 mae sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi cael ei herio dair gwaith yn San Steffan.
Yn etholiad cyffredinol 2017 cafodd ei hennill gan y Ceidwadwyr, yn isetholiad 2019 mi gipiwyd y sedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn etholiad cyffredinol 2019 mi ddychwelodd at y Torïaid.
Yn achos yr isetholiad roedd y canlyniad yn un agos, ond gyda’r ddwy fuddugoliaeth Geidwadol roedd llwyddiannau’r ymgeiswyr Torïaidd yn swmpus.
Tybed a yw James Evans, felly, yn teimlo’n ddigon hyderus am ei obeithion? Mae yntau’n dweud bod “pethau’n edrych yn eitha’ da” iddo.
“Dw i wedi bod yn siarad â phobol ar y ffôn, ac yn cwrdd â phobol gan gadw pellter cymdeithasol, ac mae’r bobol fan hyn yn barod am newid,” meddai.
“Pob parch i Kirsty Williams am ei 22 mlynedd o wasanaeth a’i chyfraniad yn ystod ei chyfnod yn cynrychioli fan hyn. Ond dw i’n credu ei bod yn amser am rywbeth newydd.
“Dw i’n credu bod pobol eisiau gweld mwy o gydweithio yma [yng Nghymru] gyda San Steffan, yn hytrach na’r ffraeo parhaus rhwng gwleidyddion lleol.
“A dw i’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni Aelod Ceidwadol o’r Senedd [yng Nghaerdydd] ac Aelod Seneddol Ceidwadol [yn Llundain]. Ac mi fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd er budd pobol ein hetholaeth.”
Ffarmwr yw James Evans sydd yn hanu o’r etholaeth, ac sydd yn byw yn Felindre ger y Gelli Gandryll.
Mae’n cynrychioli ward Gwernyfed ar Gyngor Powys, ac roedd yn aelod cabinet am gyfnod, yn gyfrifol am ddatblygu economaidd a thai.
Mae’n ystyried William Powell, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ffrind ac mae’n ei alw’n ‘Bill’.
“Dyna sydd yn dda am Frycheiniog a Sir Faesyfed,” meddai James Evans. “Rydym ni gyd yn dod ymlaen gyda’n gilydd yn dda er ein bod yn anghydweld yn wleidyddol!”
Er hynny, mae ganddo ambell air miniog i’r Democrat Rhyddfrydol, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith bod ‘Bill’ wedi bod i “brifysgol elît” Rhydychen tra bod yntau wedi mynychu “prifysgol bywyd”.
Tybed a yw’n fwy hyderus yn wynebu William Powell, yn hytrach na Kirsty Williams?
“Mi fuaswn i wedi bod yn optimistaidd am fy ngobeithion yn erbyn Kirsty, ond dw i hyd yn oed yn fwy optimistaidd yn erbyn Bill,” meddai’r Tori.
Pe bai’n dod yn AoS mae James Evans yn dweud y byddai yn rhoi’r flaenoriaeth i ailadeiladu’r economi.
“Dw i’n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod yn helpu ein busnesau bach,” meddai. “Byddai hynny yn ei dro yn helpu creu swyddi a chyfleoedd i bobol.
“Mae sicrhau bod gennym swyddi sgiliau uchel i bobol ifanc, swyddi sy’n talu yn dda, hefyd yn flaenoriaeth i mi.”
Mae Llywodraeth Cymru wrthi yn datblygu cynigion ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd yn Ystradgynlais, ac mae’r ymgeisydd yn “hynod o blês” bod pethau i weld yn dod yn eu blaenau.
Pe bai’n ennill sedd yn y Senedd mae’n dweud y byddai’n troi’r cynlluniau yn realiti.
Mae hefyd yn teimlo’n gryf am wasanaethau iechyd gwledig, ac eisiau sicrhau bod cymunedau gwledig yn medru cael at wasanaethau meddygol.
Awchu am ddatganoli cyfiawnder
Yn sefyll tros y Blaid Lafur eleni mae Gethin Jones, sy’n aelod o Gyngor Tref y Fenni lle mae yn byw.
Bu yn was sifil i’r Ystâd Garchardai cyn ymddiswyddo er mwyn gallu sefyll yn yr etholiad hwn.
Arferai weithio am flynyddoedd yng ngharchar Caerdydd yn cynorthwyo carcharorion oedd yn wynebu’r risg o hunan-niweidio neu weithgarwch treisgar.
Ymhlith y materion sydd yn agos at ei galon mae datganoli cyfiawnder, ac mae’n awyddus i weld argymhellion Comisiwn Thomas ar y pwnc yn cael eu cyflwyno.
Ddiwedd 2019 fe wnaeth y Comisiwn gyhoeddi adroddiad sy’n galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
“Mae angen cynrychiolaeth deg ac agored ar bob un person yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, gan gynnwys gweithwyr cyffredin Ystradgynlais,” meddai.
“Mae twristiaeth – yn debyg i ffermio – yn ddiwydiant hanfodol yn yr ardal, ac mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru fuddsoddi ynddo fe yn y tymor hir.
“Mae hefyd gen i ddiddordeb mewn gwireddu argymhellion adroddiad Comisiwn Thomas, ac mewn materion datganoli cyfiawnder.”
Ers sawl blwyddyn mae Gethin Jones wedi bod yn gynrychiolydd gydag undeb y PCS (Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol).
Dyn gwyrdd Plaid Cymru
Mae Grenville Ham yn gyn-Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, ac mi heriodd y sedd ar eu rhan yn yr etholiad Senedd diwethaf yn 2016.
Ond ers 2018 mae wedi bod yn aelod o Blaid Cymru, ac mi fydd yn cynrychioli’r blaid honno eleni.
Er iddo newid plaid yn ystod tymor y Senedd hwn, mae ei bryd yn dal i fod ar faterion gwyrdd i raddau helaeth.
Mae wedi astudio ‘rheolaeth amgylcheddol’, mae’n gweithio ym maes ynni gwyrdd, ac mae’r argyfwng hinsawdd o bryder mawr iddo.
Yn ei farn yntau, mi fyddai Cymru yn elwa’n fawr o gael AoS sydd â “dealltwriaeth fanwl” o bosibiliadau ynni gwyrdd.
“Rhaid i ynni gwyrdd fod yn gonglfaen i economi ein gwlad wrth i ni symud tua’r dyfodol, ac rydym wedi methu â llwyr-amgyffred hynny hyd yma,” meddai.
“Mi fyddai ein llywio tuag at y cyfeiriad cywir yn flaenoriaeth i mi.
“O ran materion lleol, dw i’n awyddus iawn i ddatblygu swyddi sydd yn gofyn am sgiliau uchel, er mwyn helpu cadw ein pobol ifanc yn yr ardal ac i ailadeiladu’r economi wedi’r pandemig.
“Gyda fy nghefndir ym maes datblygu busnes a thechnoleg werdd, dw i mewn safle da i gyflawni newid o bwys.”
Cafodd Grenville Ham ei eni a’i fagu yn Rhydychen, ac mae wedi byw yn Aberhonddu ers 16 mlynedd ble mae yn gynghorydd tref.
Sgiliau gwledig a swyddi gwyrdd
Yn cynrychioli’r Blaid Werdd ar Gyngor Sir Powys, Emily Durrant fydd yn herio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed ar ran y Gwyrddion eleni.
Mae hi’n byw yn Llangors, ger Aberhonddu, yn dysgu Cymraeg, ac yn gweithio yn rhan amser yn y sector amgylcheddol.
Yn ôl yr ymgeisydd gwyrdd, mae yna bryderon mawr am bobol ifanc yn heidio o gefn gwlad Cymru i’r dinasoedd, a hoffai fynd i’r afael â hynny pe bai’n dod yn AoS.
“Mae pobol [yr ardal] yn dweud wrtha’ i eu bod nhw angen mwy o gyfleoedd i ddysgu, hyfforddi, ac ennill bywoliaeth dda yn eu cymunedau,” meddai.
“Mae eraill yn dweud wrtha’ i eu bod yn digalonni o weld cymaint o bobol ifanc yn gadael yr ardal i astudio a chwilio am waith.
“Mae cyllideb a gwasanaethau ein cyngor yn dioddef am fod ein demograffeg yn anghytbwys. Mae yna ddiffyg pobol ‘oedran gweithio’ yn yr ardal.
“Ac mae yna gyfradd anghymesur o bobol ‘oedran ymddeol’ sydd angen ein cymorth. Dyna pam dw i’n sefyll tros sgiliau gwledig, entrepreneuriaeth wledig, a swyddi gwyrdd.”
Mae’r ymgeisydd yn dweud bod ganddi ddiddordeb mewn “ffermio a sustemau bwyd” ac wedi gweithio mewn llu o swyddi oddi fewn i’r sector bwyd.
Drwgdybiaeth tuag at wyddoniaeth
Yn herio’r sedd ar ran Reform UK (Plaid Brexit ar ei newydd wedd) mae John Muir, ac ymhlith y materion sydd yn ei gorddi fwyaf mae cyfyngiadau’r coronafeirws.
“Mae argyfwng yn rhoi gallu ‘dosbarth gwleidyddol’ ar brawf,” meddai. “A heb os mae perfformiad y Drindod Dorïaidd/Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol Prydain wedi bod yn echrydus o wael.
“Mae wedi bod yn agos at dor-cyfraith. Mae ymgyrch ar waith i godi ofn ac i dwyllo, ar raddfa na welwyd o’r blaen.
“Mae grym y cyfnodau clo yn dinistrio’r budd cyffredin,” atega. “Maen nhw’n hollol aneffeithiol yn erbyn y feirws, am mai un o rymoedd natur yw [Covid-19].
“Maen nhw’n ein dad-ddyneiddio ac maen nhw yn pylu fflam democratiaeth – fflam sydd eisoes yn wan yn y cyfnod llwgr sydd ohoni.”
Hefyd mae John Muir yn amau gwerth “scientism” – sef defnyddio gwyddoniaeth i ddatrys problemau.
Daw’r ffotograffydd llawrydd o ardal Forest of Dean, yn ne orllewin Lloegr. Fe symudodd i Drefaldwyn bedair blynedd yn ôl.
Roedd yn gadlywydd tanc (tank commander) adeg y Rhyfel Oer, meddai, ac yn ystod cyfnodau gwahanol o’i yrfa mae wedi gweithio yn athro Hanes, yn Olygydd, ac yn fancwr.
Blaenoriaethu priffyrdd a thrafnidiaeth
Mae Karen Laurie-Parry yn cynrychioli ward Bronllys ar Gyngor Powys, ac mi fydd hi’n sefyll yn ymgeisydd annibynnol yn etholiad y Senedd.
Yn gweithio ar fferm yn Erwyd, ger Llanfair-ym-Muallt, daw o Aberdâr yn wreiddiol.
Ymhlith y materion sydd bwysicaf iddi hi mae cyflwr y lonydd.
“Mae priffyrdd a thrafnidiaeth yn faterion sylfaenol bwysig,” meddai. “Mae gennym rwydwaith o heolydd yn estyn dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Powys yn ehangach, a Chymru.
“[Pe bawn yn cael fy ethol mi fuaswn] yn gweithio gydag AoSau i ddatblygu a chryfhau pob un o’r prif ffyrdd er mwyn gwella cysylltiadau busnes yn yr etholaeth, ym Mhowys, ac yng Nghymru.”
Mae’n cefnogi datblygiad y Gymraeg ac ymdrechion i ddelio â newid hinsawdd, ac mae am weld mwy o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu.
*
- Fe wnaeth Golwg gysylltu â Claire Mills (Plaid Diddymu’r Cynulliad) a Sam Holwill (Gwlad) ond ni chafwyd ateb.