Gyda datganoli dan warchae ar hyn o bryd, mae nifer o genedlaetholwyr wedi bod yn gwneud rhywbeth annisgwyl iawn, a bisâr. Disgyn mewn cariad gyda Mark Drakeford. Waeth beth a wna’r arweinydd, waeth pa mor deg ydi rhai o’r ymosodiadau arno (a dw i’n prysur ychwanegu fod llawer o ymosod annifyr, annheg arno hefyd), mae yna garfan yn y mudiad cenedlaethol sy’n baglu dros eu hunain i’w glodfori.

Wrth gwrs, dydi Drakeford ei hun heb wneud dim i ennyn y cariad hwn, a dw i ddim yn rhy siŵr ei fod yn ei werthfawrogi. I’r gwrthwyneb, mae’n elyn eithaf hysbys i’r holl syniad o genedlaetholdeb. Ac mae hynny’n ddigon teg os mai dyna’i farn. Yn y bôn, mae’r glafoerio drosto’n symptomatig o’r effaith rally round the flag sydd yn buddio Llywodraeth Lloegr ar hyn o bryd hefyd. Anallu i wahaniaethu rhwng cenedl y Cymry a Llywodraeth Cymru, a bod amddiffyn un yn golygu amddiffyn y llall rhag unrhyw feirniadaeth.

Efallai y dylem atgoffa ein hunain o “lwyddiannau” y llywodraeth bu’n ei harwain ers 2018:

  • Trosglwyddo pwerau datganoledig i San Steffan yn wirfoddol;
  • Gwrthod mesur i ddiogelu enwau llefydd hanesyddol Cymraeg;
  • Hepgor hanes Cymru o’r cwricwlwm newydd;
  • Wfftio ysgol feddygol i ogledd Cymru;
  • Gwrthod cefnogi datganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru;
  • Ymrwymo i ddatganoli heddlua yn 2017, heb wthio amdano fymryn ers hynny;
  • Parhau â chontractau dim oriau;
  • Gwrthod prydau ysgol am ddim i’r disgyblion tlotaf;
  • Peidio cynyddu maint y Senedd tra’r oedd cyfle, gan sicrhau 60 AoS am flynyddoedd.

A does dim ym maniffesto Llafur eleni na ellid bod wedi’i hen gyflawni erbyn hyn.

Record o wneud cyn lleied â phosib ydi hi. A byddai hefyd yn syniad i’w ffans mwyaf edrych ar y ffordd mae’n siarad gydag ambell Aelod o’r Senedd wrth ateb eu cwestiynau, yn enwedig Delyth Jewell a Laura Ann Jones. Mae’n fileinig.

Daw llawer o’r amddiffyniadau o berfformiad Llywodraeth Drakeford ar Covid-19. Ond yma mae parodrwydd cenedlaetholwyr i achub ei gam yn mynd o fod yn od, i fod yn droëdig. Y prif faen prawf ydi gwneud yn well na Lloegr. Am far truenus o isel rydyn ni’n gosod i’n hunain. Y gwir plaen ydi, dan arweiniad Llafur, mae cyfraddau marwolaeth Cymru ymhlith y gwaethaf yn y byd. O ymrwymo i systemau profi ac olrhain annigonol Lloegr, i ddiffyg parodrwydd i ymestyn y cyfnod clo byr, i’r llanast llwyr dros y Nadolig, heb sôn am ddiffyg eglurder angenrheidiol sawl tro, mae ei lywodraeth wedi gwneud traed moch ohoni.

A bu farw pobl yn ddiangen o’i herwydd.

Os ydi hi mor hawdd ennyn clod cenedlaetholwyr drwy fod fymryn yn well na Lloegr, a pheidio â bod yn Boris Johnson, s’dim rhyfedd fod Llafur dal mewn grym ar ôl 22 o flynyddoedd.