Pwy all ddweud bod dim modd darganfod pethau newydd yn ystod pandemig? Mae’r wythnos ddiwetha wedi bod yn llawn profiadau newydd – brechiad covid yw’r mwyaf nodedig, am wn i – ond y mwya cyffrous oedd cael profi bwydydd newydd am y tro cynta. Nid pob wythnos ma rhywun yn teimlo yn ddigon mentrus i fwyta battered mars bar a boortsog o fewn dyddiau i’w gilydd.