Mae’n ymddangos bod David Cameron, druan, yn cael ychydig o drafferth eto. Ac yntau wedi gorfod cuddio oherwydd Brexit, mae bellach wedi gorfod diflannu eto, oherwydd ei weithgareddau ariannol.

Ond nid fo ydi’r unig un ddylai wynebu problem tros ei ymgais i achub ei gyflogwyr – y cwmni ariannol Greensill – a hynny trwy ddefnyddio ei ddylanwad personol i lobïo dau o weinidogion amlyca’ Llywodraeth San Steffan.