Ges i’r pleser ar y penwythnos o fynd i’r gêm yn Yr Ofal rhwng Caernarfon a’r Barri. Ac roedd hi’n fraint gweld, ar yr hen gae, un o gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, sef David Rhys George Best Cotterill. Yn 33 oed erbyn hyn, mae Cotterill wedi cael gyrfa hir lwyddiannus yn chwarae 400 o gemau proffesiynol gyda chlybiau Bristol City, Sheffield United, Abertawe, Birmingham ac eraill.