Os oes arnat ti ofn, mae rhywbeth o’i le.

Os wyt ti erioed wedi sefyll y tu allan i ystafell ddosbarth neu neuadd yn gwasgu dy ewinedd i mewn i gledrau dy law er mwyn rhwystro dy hun rhag gweiddi neu ddatgelu neu grio; os wyt ti wedi teimlo oerfel iasol neu lif poeth pryder yn dy gorff, mae rhywbeth o’i le.