Yn anochel, fe ddenodd adroddiad y Commission on Race and Ethnic Disparities ymateb chwyrn gan y rhai sydd o’r farn bod y Deyrnas Unedig yn wlad hiliol – sy’n cael ei gweinyddu gan sefydliadau hiliol. Yn eu tyb hwy, rhaid edrych ar y Deyrnas Unedig o bersbectif ei hanes o goloneiddio a braint gwyn.
Ond ydy’r sefyllfa mor syml â hynny? A ydy’r holl broblemau a wynebir gan leiafrifoedd du ac ethnig yn ganlyniad i hiliaeth? A ydym i gyd yn gweithio i sefydliadau hiliol?