Ydy hi’n bosibl galaru dros rywun nad ydych chi’n ei nabod?

Yn wyneb digwyddiadau’r wythnosau diwethaf, mae hwnnw’n gwestiwn diddorol.

Ac yn un sydd wedi ei ateb yn rhannol – i fi, beth bynnag.

Nid ‘galar’ yw’r gair cywir. Mae hwnnw’n beth dyfnach o lawer, wrth gwrs – mwy parhaol, mwy cymhleth, mwy anfesuradwy o boenus – na’r hyn mae rhywun yn ei deimlo wrth glywed am farwolaeth dieithryn.

Ond gall ambell farwolaeth eich siglo’n wael, a’ch tristáu’n fawr iawn.