Ers tro bellach, rwyf wedi dod i’r casgliad fod jet skis yn beiriannau peryglus ac anghymdeithasol. Mae erthygl olygyddol yn The Times (26:03:21) wedi cadarnhau fy mhryderon ac yn ein hatgoffa fod tair damwain angheuol wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig y llynedd, gyda dwy ohonynt yng Ngwynedd. Roedd un ar y Fenai, ar sdepan fy nrws. Gallaf weld o’m cartref fod synnwyr cyffredin yn dangos nad yw’r Fenai – oherwydd ei natur gul, ei phrysurdeb gyda chychod mân a’i llif gyfnewidiol –